Peidiwch â cholli dyddiad cau enwebiadau Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro
Don’t miss Sport Pembrokeshire Awards nominations deadline
Mae'r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn agosáu'n gyflym.
Anogir unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno enw chwaraewr, hyfforddwr, clwb, tîm neu sefydliad ar gyfer unrhyw un o'r categorïau i wneud hynny cyn y dyddiad cau sef dydd Sul 13 Hydref.
Bydd y gwobrau'n cael eu cynnal yn Folly Farm ddydd Gwener 29 Tachwedd.
Categorïau’r gwobrau yw:
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gorchest Chwaraeon i Fenywod
- Gorchest Chwaraeon i Ddynion
- Gorchest Chwaraeon i Ferched (dan 16 oed)
- Gorchest Chwaraeon i Fechgyn (dan 16 oed)
- Gwobr Chwaraeon Anabledd
- Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (Dan 16)
- Gorchest Tîm y Flwyddyn
- Gorchest Tîm Iau
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Yr Arwr Tawel
- Trefnydd Clwb y Flwyddyn
- Clwb y Flwyddyn
- Llwyddiant Oes
Gwobr ychwanegol fydd yn cael ei chyhoeddi ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n galed iawn i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol, ac yn arloesol – ac yn meithrin cysylltiadau cryf gyda'r gymuned leol.
Diolch unwaith eto i noddwyr y Gwobrau, Valero, Pure West Radio a Folly Farm am sicrhau y gallwn barhau i ddathlu chwaraeon Sir Benfro.
I wneud enwebiad, ewch i: https://www.pembrokeshire.gov.uk/forge/index.asp?x=F53021F86D