English icon English
Ysgol Bro Penfro award

Prosiect adeiladu gwych Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn ennill dwy wobr

Double award win for fantastic Ysgol Gymraeg Bro Penfro building project

Mae Ysgol Gymraeg Bro Penfro wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith disgyblion a staff ers iddi gael ei hagor ym mis Medi 2024.

A nawr mae'r ysgol gwerth £13.9m, y gyntaf yn Sir Benfro sy'n bodloni gofynion Carbon Sero Net llym, wedi ennill dwy brif wobr am ansawdd a gwerth yr adeilad.

Mae'r ysgol, a adeiladwyd gan Morgan Sindall Construction, wedi ennill:

  • Gwobr Cyflawni Gwerth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru 2025.
  • Gwobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Llywodraeth Cymru 2025.

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu rhagoriaeth ar draws y sector, gan gydnabod ymgynghorwyr, contractwyr, cleientiaid, penseiri a phrosiectau rhagorol, ynghyd â chyflawniadau ym meysydd arloesi a chynaliadwyedd.

Tynnodd y wobr Adeiladau Addysg sylw at y gwaith partneriaeth a fu’n rhan o brosiect Ysgol Gymraeg Bro Penfro:

“Mae llwyddiant y prosiect hwn, er gwaethaf pwysau cyllidebol, rhaglen dynn a safle cyfyngedig, yn deillio o’r perthnasoedd proffesiynol, parchus a chydweithredol agos a ddatblygwyd rhwng y gwahanol randdeiliaid a'r timau cyflawni cysylltiedig, ac mae'n rhywbeth i'w ddathlu, trwy lwyddiant parhaus yr adeilad.”

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd gyda’r gwobrau hyn, ac mae'r llwyddiant hwn yn deillio i raddau helaeth o'r cydweithrediad effeithiol rhwng tîm prosiect y Cyngor a'r contractwr. 

“Rwy'n ymwybodol o'r heriau mae’r Cyngor wedi’u hwynebu wrth gyflawni'r prosiect hwn; mae'r ysgol a'r gwobrau a enillwyd yn ddiweddar yn glod i bawb dan sylw.

“Mae'r gwobrau'n adlewyrchu’r gwaith da sy'n cael ei wneud yn gyson i wella amgylcheddau dysgu ysgolion a'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud gan y Cyngor i sicrhau bod addysgu a dysgu yn digwydd mewn amgylcheddau dysgu sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”

Ysgol Bro Penfro

Dywedodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall Construction: “Mae gweld Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn cael ei chydnabod gyda nid un ond dwy wobr fawreddog yn rhoi llawer o foddhad ac mae’n dyst i'r cydweithredu arbennig rhwng ein timau, Cyngor Sir Penfro, a Llywodraeth Cymru.

“Mae'r prosiect hwn yn cynrychioli popeth rydym yn ymdrechu i’w gyflawni yn Morgan Sindall – darparu gwerth gwirioneddol i’r gymuned a gwthio ffiniau adeiladu cynaliadwy ar yr un pryd.

“Fel ysgol Carbon Sero Net gyntaf Sir Benfro, rydym nid yn unig wedi creu cyfleusterau addysgol rhagorol ar gyfer dysgu cyfrwng Cymraeg ond rydym hefyd wedi gosod safonau newydd ar gyfer cyfrifoldeb amgylcheddol wrth adeiladu ysgolion.”

Dechreuodd y gwaith o adeiladu Ysgol Bro Penfro ym mis Mawrth 2023 a throsglwyddwyd yr allweddi i'r Pennaeth Gweithredol ym mis Gorffennaf 2024.

Agorodd yr ysgol i ddisgyblion ym mis Medi 2024 ac, ar hyn o bryd, mae 160 o blant ar y gofrestr.

Cafodd prosiect adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Penfro ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a Chyngor Sir Penfro.

 

 

Nodiadau i olygyddion

Teitl: Yn dathlu'r ddau wobr am Ysgol Gymraeg Bro Penfro yw, o'r chwith i'r dde, Arweinydd y Cyngor Cllr Jon Harvey, Pennaeth Dafydd Hughes a Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg.