English icon English
Charles Street development - Datblygiad Stryd Charles

Digwyddiad galw heibio wedi'i drefnu wrth i'r gwaith ddechrau ar ddatblygiad Aberdaugleddau

Drop-in event organised as works starts on Milford Haven development

Mae'n bleser gan Gyngor Sir Penfro gyhoeddi y bydd y gwaith adeiladu ar ddatblygiad tai cymdeithasol newydd Gwêl yr Hafan ar hen safle Motorworld ar Charles Street, Aberdaugleddau, yn dechrau'r wythnos nesaf, dydd Llun, 6 Hydref.

Mae'r datblygiad, a fydd yn darparu 24 o fflatiau llety gwarchod, yn cael ei adeiladu gan WB Griffiths ar ran y Cyngor.

Disgwylir i'r adeiladu gymryd tua 20 mis, yn amodol ar amodau'r safle a chynnydd y prosiect.

Er mwyn sicrhau bod trigolion a rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu ac yn cael y cyfle i ymgysylltu â'r datblygiad, bydd Gwasanaethau Tai Sir Benfro yn cynnal Digwyddiad Galw Heibio Ymgysylltu â'r Gymuned ddydd Llun, 17 Tachwedd 2025 rhwng 4pm a 7pm.

Lleoliad y digwyddiad yw The Lord Nelson, 9 Hamilton Terrace, Aberdaugleddau, SA73 3AW.

Bydd aelodau o'r tîm Gwasanaethau Tai a chynrychiolwyr y prosiect ar gael i rannu rhagor o wybodaeth, ateb cwestiynau, a gwrando ar adborth gan y gymuned leol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd ar y safle hwn a fydd yn darparu llety gwarchod fforddiadwy mawr ei angen.

“Rwy'n gobeithio y bydd trigolion lleol yn manteisio ar y cyfle i gwrdd â'r datblygwyr a'r staff tai i ofyn unrhyw gwestiynau a rhannu eu barn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad neu'r digwyddiad ymgysylltu sydd i ddod, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn devCLO@pembrokeshire.gov.uk