
Dros fil o blant a staff yn gorymdeithio drwy Hwlffordd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Over a thousand children and staff parade through County town in St David’s Day celebration
Roedd Hwlffordd yn fwrlwm o weithgarwch wrth i gannoedd o blant o 14 o ysgolion ganu a chwifio wrth iddynt orymdeithio trwy ganol y dref heddiw (Dydd Gwener, 7 Mawrth) i ddathlu Nawddsant Cymru.
Wedi’i drefnu gan Fforwm Iaith Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro, mae’r parêd blynyddol hon wedi profi’n boblogaidd ymhlith ysgolion ac aelodau’r gymuned.
Dan arweiniad seiniau bywiog Samba Doc, dechreuodd y parêd o ben y dref, gyda phlant yn gorymdeithio i lawr yr heol fawr cyn troi drwy ganol y dref a gorffen ym Maes Chwarae Picton ar gyfer jambori awyr agored.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jon Harvey: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, ac roedd yn wych gweld ysgolion o bob cwr o Sir Benfro yn cymryd rhan.”
Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Diolch o galon i'r ysgolion, sefydliadau, gwirfoddolwyr a phawb arall sy'n helpu i wneud y digwyddiad blynyddol hwn yn llwyddiant – mae’n wych gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant!