
Dychwelyd ar ymweliad yn rhan o brosiect Taith sy'n cysylltu Ffrainc a Sir Benfro
Return visit for Taith project linking France and Pembrokeshire
Yn ddiweddar, croesawodd Sir Benfro 37 o ddisgyblion ac athrawon o ranbarth Sanguinet yn Ffrainc.
Roedd yn dilyn ymweliad gan ddisgyblion ac athrawon o Sir Benfro â Ffrainc, gan nodi penllanw prosiect dwy flynedd a gefnogwyd gan gyllid Taith Llywodraeth Cymru.
Croesawyd y criw o Ffrainc gan Ysgol Gymunedol Pennar, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gymunedol Prendergast, Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac Ysgol Penrhyn Dewi.
Yn ystod yr wythnos, cymerodd y plant ran mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu yn yr awyr agored, archwilio materion cynaliadwyedd a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yng Nghastell Penfro a Chadeirlan Tyddewi.
Cawsant gyfle hefyd i dreulio amser gyda Chyngor Tref Neyland a Chôr Merched Neyland, cyswllt pwysig i'r prosiect gan fod Neyland wedi'i gefeillio â Sanguinet, a dyma'r rheswm y dewiswyd y rhanbarth hwn ar gyfer y prosiect Taith hwn.
Cafodd y plant gyfle hefyd i ymweld â siambr y cyngor yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd, lle cawsant eu cyfarch a'u tywys o gwmpas gan y Cyfarwyddwr Addysg Steven Richards-Downes, cyn ailddechrau eu gweithgareddau mewn ysgolion.
Daeth yr ymweliad i ben gyda phryd nos i holl gyfranogwyr y prosiect dros y ddwy flynedd.
Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn arwain at gyswllt cryfach rhwng ysgolion a rhanbarth Sanguinet yn ogystal â chefnogi ysgolion eraill i ddatblygu prosiectau Taith tebyg, gan alluogi llawer mwy o ddisgyblion i elwa o'r cyfleoedd sydd ar gael o'r cyllid hwn.