English icon English
Plentyn yn paentio gyda phaent lliwgar

Dyddiad Cau ar gyfer Cais am Le Mewn Meithrinfa

Nursery Place Application Deadline

Bydd angen i Rieni/Gwarcheidwaid plant a anwyd rhwng 01/09/2021 a 31/08/2022 yn Sir Benfro wneud cais am le mewn ysgol feithrin ar gyfer misoedd Ionawr, Ebrill a Medi 2025 erbyn y dyddiad cau, sef 30 Ebrill 2024.

Bydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 30 Ebrill 2024 yn cael eu hystyried yn hwyr, a gallai hyn effeithio ar p'un a yw'r plentyn yn cael lle yn eu ddewis ysgol.

Mae'n bwysig nodi na fydd lle mewn ysgol yn cael ei ddyrannu oni dderbynnir cais ffurfiol.

I wneud cais am le mewn ysgol,dilynwch y ddolen hon: https://www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-a-dysgu

I gael gwybodaeth ynghylch pa dymor y dylai eich plentyn fod yn ymuno â'r feithrinfa, dilynwch y ddolen hon i'r ddogfen Gwybodaeth i Rieni 2024-25, sy'n nodi'r tymhorau ar sail dyddiad geni eich plentyn a pha ysgol rydych yn gwneud cais amdani: https://www.sir-benfro.gov.uk/mynediad-i-ysgolion/derbyniadau-i-ysgolion-gwybodaeth-i-rieni

Nid oes angen ailymgeisio os ydych eisoes wedi cyflwyno ffurflen. Cysylltwch â Derbyniadau Ysgolion drwy anfon e-bost at admissions@pembrokeshire.gov.uk os hoffech wirio os oes cais eisoes wedi'i wneud.

Caiff Rhieni/Gwarcheidwaid eu hatgoffa nad yw mynychu meithrinfa mewn ysgol yn gwarantu lle mewn dosbarth derbyn/cynradd a bydd angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer hyn.

Caiff Rhieni/Gwarcheidwaid eu hysbysu am leoedd meithrin erbyn 31 Gorffennaf 2024.