English icon English
Interchange artist impression 2 - Cyfnewidfa artist argraff 2

Dysgwch fwy am y camau nesaf ar y daith i adfywio Hwlffordd

Find out more about what’s coming next in Haverfordwest’s regeneration journey

Bydd noson gymunedol yn cael ei chynnal yr wythnos gyda’r contractwr sy’n ymgymryd â’r gwaith o adeiladu’r Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd ar gyfer Hwlffordd.

Bydd Kier Construction Ltd yng nghanolfan HaverHub ddydd Iau, 21 Tachwedd i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd i gwrdd â’r tîm a chael gwybod rhagor am y datblygiad. Mae’r datblygiad ar fin symud ymlaen i’r cam ailadeiladu yn fuan.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 3pm a 7pm, ac mae’n gyfle gwych i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y cynlluniau.

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru, a bydd yn darparu canolfan drafnidiaeth fodern ac arloesol, gan integreiddio pob dull teithio.

Mae'r dyluniadau'n cynnwys gwelliannau i‘r cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr drwy'r safle, gorsaf fysiau fwy effeithlon ac integredig, a bydd maes parcio aml-lawr modern hefyd yn cael ei adeiladu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae hwn yn gam cyffrous arall yn adfywiad helaeth Hwlffordd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu yn dechrau ar y prosiect diweddaraf hwn.”

Bydd yr orsaf fysiau'n cael ei hintegreiddio o fewn y Gyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus, gyda saith cilfan fysiau a chyfleusterau gwell ar gyfer teithwyr. Yn ogystal â hyn, bydd gan y maes parcio aml-lawr newydd tua 280 o leoedd parcio, a bydd yn llawer haws i’r gyrwyr ei ddefnyddio.

Mae cymwysterau gwyrdd hefyd yn bwysig, ac mae mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn rhan o’r datblygiad, gyda chynlluniau i osod rhagor o fannau gwefru yn y dyfodol. Bydd paneli solar hefyd yn cael eu gosod ar do’r maes parcio newydd.

Bydd gwella'r amgylchedd o amgylch y gyfnewidfa a hyrwyddo dulliau teithio llesol fel cerdded a beicio yn gwella’r amgylchfyd cyhoeddus ymhellach.

Bydd y prosiect hefyd yn gwella’r ddarpariaeth parcio ar gyfer ceir, a’r mynediad lleol i fysiau yng ngorsaf drenau Hwlffordd.

Dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Thomas Tudor: “Rwy’n croesawu’r digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd hwn. Mae’n gyfle i bawb ddod ynghyd i drafod y prosiectau amrywiol sy’n mynd rhagddynt, a dysgu mwy amdanynt. Does dim dwywaith bydd hyn yn gwella ein tref sirol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Nid oes angen archebu lle ar gyfer y digwyddiad, dim ond galw heibio ar amser sy'n gyfleus i chi.

Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru a gorllewin Lloegr yn Kier Construction: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion Hwlffordd yn y noson gymunedol hon a rhannu’r cynlluniau cyffrous sydd gennyn ni ar gyfer y prosiect hwn.

“Mae Kier yn hynod falch o’i wreiddiau Cymreig ac yn gallu eu holrhain yn ôl dros 40 mlynedd. Rydyn ni wrth ein bodd yn ehangu’r profiad hwn yn Hwlffordd.”

Mae cwmni Kier hefyd yn bwriadu cael lleoliad yng nghanolfan siopa Glan-yr-afon, lle bydd pobl yn gallu galw heibio i ddarganfod mwy am y cynlluniau unwaith y bydd y gwaith yn dechrau'r mis hwn.

Mae maes parcio dros dro Glan-yr-afon wedi cau er mwyn caniatáu i'r gwaith datblygu ddechrau.

Mae rhagor o wybodaeth am barcio ceir yn Hwlffordd ar gael yn: Meysydd parcio Hwlffordd