English icon English
 Cyllideb

Ymgynghoriad cynnar ar y gyllideb – peidiwch â cholli’ch cyfle i wneud sylwadau

Early budget consultation – have your say on major financial pressures

Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hatgoffa i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cynnar ar y gyllideb sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro.

Fel llawer o awdurdodau lleol, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau ariannol parhaus mawr, gan gynnwys diffyg cyllid o £30 miliwn yn 2025-26.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar:

  • Sut fyddech chi'n cynhyrchu'r arian sydd ei angen (amcangyfrif o £30m) ar gyfer 2025-26 er mwyn mantoli'r gyllideb?
  • Faint fyddech chi'n codi’r Dreth Gyngor i sicrhau cyllideb wedi’i mantoli?
  • Faint fyddech chi'n lleihau cyllidebau gwasanaethau i sicrhau cyllideb wedi’i mantoli?
  • Unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer arbedion cyllideb neu i fantoli'r gyllideb?

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025-26.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw dydd Sul, 29 Medi 2024. 

Gallwch roi eich barn drwy lenwi ein ffurflen ymateb ar-lein.

Gallwch hefyd roi eich barn drwy ddefnyddio copi papur o'r ffurflen ymateb. Ffoniwch 01437 764551, fel y gallwn wneud trefniadau i’w anfon atoch.

Cynhelir ymgynghoriad manylach ar y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn galendr, gan gynnwys cyfres o sesiynau Facebook Live i ganiatáu trafodaeth gyhoeddus ar y gyllideb rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025.

Cynhelir y sesiwn Facebook Live gyntaf ddydd Iau 26 Medi, 6pm-7pm ar dudalen Facebook Cyngor Sir Penfro: https://www.facebook.com/PembrokeshireCountyCouncil