Ymgynghoriad cyllideb gynnar y Cyngor – dweud eich dweud ar bwysau ariannol
Early Council budget consultation – have your say on financial pressures
Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal ymgynghoriad cyllideb gynnar ar gyfer 2025-26 wrth i'r Awdurdod wynebu pwysau ariannol sylweddol parhaus.
Pwrpas yr ymgynghoriad yw i fesur barn y cyhoedd ar y pwysau a wynebir a sut y dylid eu rheoli.
Rhagwelir y bydd gan y Cyngor ddiffyg cyllid o £84.6m dros y pedair blynedd nesaf, a £30m o hynny'n ymwneud â 2025-26.
Profodd y Cyngor gynnydd digynsail yn y galw am ei wasanaethau yn 2023/24, gan gynnwys £13.9m ychwanegol ar Addysg (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant a Thai (Digartrefedd).
Mae £17m ychwanegol wedi'i ychwanegu ar gyfer 2024-25 ond nid yw’n debygol o fod yn ddigon i ariannu'r pwysau hwn.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar:
- Sut fyddech chi'n cynhyrchu'r arian sydd ei angen (amcangyfrif o £30m) ar gyfer 2025-26 er mwyn mantoli'r gyllideb?
- Faint fyddech chi'n codi’r Dreth Gyngor i sicrhau cyllideb wedi’i mantoli?
- Faint fyddech chi'n lleihau cyllidebau gwasanaethau i sicrhau cyllideb wedi’i mantoli?
- Unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer arbedion cyllideb neu i fantoli'r gyllideb?
Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025-26.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi'u cwblhau yw dydd Sul, 29 Medi 2024.
Gallwch roi eich barn drwy lenwi ein ffurflen ymateb ar-lein.
Gallwch hefyd roi eich barn drwy ddefnyddio copi papur o'r ffurflen ymateb. Ffoniwch 01437 764551, fel y gallwn wneud trefniadau i’w anfon atoch.
Cynhelir ymgynghoriad manylach ar y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn galendr, gan gynnwys cyfres o sesiynau Facebook Live i ganiatáu trafodaeth gyhoeddus ar y gyllideb rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025.