Newidiadau i’r gwasanaethau bws dros y Pasg yn Sir Benfro
Easter bus service changes in Pembrokeshire
Bydd nifer o newidiadau i wasanaethau bws yn cael eu cyflwyno ddiwedd mis Mawrth mewn pryd ar gyfer gwyliau ysgol y Pasg.
Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i wasanaethau’r haf yn ardal Tyddewi a rhwng Dinbych-y-pysgod a Phentywyn, amserlen newydd ar y gwasanaeth rhwng Hwlffordd ac Aberllydan, a sawl newid arall i wasanaethau yn ardal Hwlffordd.
Bydd Gwibiwr Dinbych-y-pysgod, sy’n rhedeg rhwng Dinbych-y-pysgod a Llanusyllt, hefyd yn dychwelyd ar gyfer penwythnos y Pasg.
Mae manylion llawn y newidiadau i’r gwasanaethau fel a ganlyn:
O ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2026:
- – 403 Y Gwibiwr Celtaidd (Penrhyn Tyddewi) – yn ailgychwyn ar gyfer tymor haf 2026
- – 351 (Dinbych-y-pysgod–Llanrhath–Pentywyn) – amserlen yr haf yn cychwyn
O ddydd Llun 30 Mawrth 2026:
- – 301 (Gwasanaeth tref Hwlffordd) – amser rhedeg hirach a nifer y teithiau wedi’i leihau o 5 taith y dydd i 4.
- – 307 (Hwlffordd–Pontfadlen) – cyflwyno gwasanaeth prynhawn dyddiol (o ddydd Llun i ddydd Gwener)
- – 308 (Hwlffordd–Burton mewn cylch) – mae’r daith foreol yn ymadael 15 munud yn gynharach, oherwydd tagfeydd ar Heol Penfro. Mae taith y prynhawn yn ymadael 10 munud yn ddiweddarach ac yn galw yn Rhodfa Sant Usyllt ar gais yn unig.
- – 311 (Hwlffordd–Aberllydan) – amser rhedeg hirach. Mae pob gwasanaeth ar y ffordd allan yn galw yng Ngorsaf Reilffordd Hwlffordd, ac mae pob gwasanaeth ar y ffordd i mewn yn galw yng Ngorsaf Reilffordd Hwlffordd ar gais.
- – 313 (Hwlffordd–Cas-wis) – mae’r daith gyntaf yn ymadael 20 munud yn gynharach. Nid yw’r gwasanaeth prynhawn yn galw ym Morrisons mwyach oherwydd tagfeydd.
Rhwng dydd Sadwrn 4 Ebrill 2026 a dydd Llun 6 Ebrill 2026:
- – Gwibiwr Dinbych-y-pysgod (Dinbych-y-Pysgod–Llanusyllt) – penwythnos y Pasg yn unig
I weld yr amserlenni ewch i: https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni/newidiadau-arfaethedig-ir-gwasanaeth-bysiau-rev.
Gellir gofyn am gopïau papur o’r amserlenni newydd drwy ffonio 01437 764551, neu drwy anfon neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk.