Eisteddfod farddoniaeth
Poetry Eisteddfod
Mae Llyfrgell Hwlffordd wrth ei bodd i fod yn rhan o Daith Llyfrgelloedd ledled y DU y Bardd Llawryfog sydd wedi’i threfnu ar gyfer mis Mawrth 2024.
Yn arwain at y digwyddiad mawreddog hwn, mae Llyfrgell Hwlffordd yn falch o gyhoeddi lansio cystadleuaeth eisteddfod farddoniaeth. Prif amcan y gystadleuaeth hon yw dathlu'r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru, treftadaeth Cymru a llenyddiaeth Cymru.
Yng ngoleuni hyn, thema’r eisteddfod fydd y bardd enwog o Gymru, Dylan Thomas. Anogir pob un sy’n cymryd rhan i gael eu hysbrydoli gan ei weithiau llenyddol, neu gan y dyfyniad canlynol: “O lle rych chi, gallwch glywed eu breuddwydion”.
Mae'r eisteddfod yn agored i oedolion ac i bobl ifanc 11 oed ac yn hŷn. Mae adrannau oedran ar wahân ar gyfer y rhai 11-14 oed; 15-17 oed ac oedolion 18 oed ac yn hŷn.
Mae tri chategori gwahanol:
- Ysgrifennu cerdd (ar agor i bob categori oedran).
- Darlunio cerdd heb ei chyhoeddi o’ch eiddo eich hun (ar agor i bob categori oedran).
- Cerdd geiriau llafar, sydd ar agor i bobl dros 18 oed yn unig. Gellir cyflwyno hon ar ffurf ffeil sain neu fideo ynghyd â thrawsgrifiad.
Gellir cyfansoddi ceisiadau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog ac ni ddylai fod yn hwy nag un dudalen A4 o hyd.
Bydd y ceisiadau'n cael eu beirniadu gan gynrychiolwyr lleol o Sir Benfro.
Ymhellach, bydd enillwyr y gystadleuaeth nid yn unig yn derbyn gwobr, ond hefyd yn cael cynnig seddi yn y gynulleidfa yn nigwyddiad Taith Llyfrgelloedd y Bardd Llawryfog ddydd Gwener, 8 Mawrth 2024.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys darlleniadau gan y Bardd Llawryfog, Simon Armitage a'i westai ar gyfer y noson, Owen Sheers.
Bydd y mynychwyr hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymweliad preifat y noson honno o arddangosfa newydd Dylan Thomas yn yr Oriel. Bydd yr arddangosfa hon yn cael ei churadu’n fanwl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn arddangos eitemau o’i chasgliadau hynod.
Gellir cyflwyno ceisiadau i’r eisteddfod farddoniaeth o ddydd Llun, 4 Rhagfyr 2023.
Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw dydd Iau, 1 Chwefror 2024, a dylid anfon pob cais i Lyfrgell Hwlffordd.
I gael canllawiau llawn, ewch i’ch llyfrgell leol neu maent ar gael ar-lein yn wefan y Cyngor.