Deg diwrnod i fynd tan Eisteddfod y Garreg Las!
Eisteddfod y Garreg Las - 10 days to go!
Dim ond deg diwrnod sydd cyn i Eisteddfod y Garreg Las agor ei giatiau ar gyfer dathliad wyth diwrnod o’r Gymraeg a chreadigrwydd a diwylliant Cymru yn Llantwd.
Mae cymunedau lleol wedi bod yn brysur yn addurno’r ardal yn barod i groesawu’r ŵyl, ac mae gwaith adeiladu’r Maes yn brysur fynd rhagddo.
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng ngogledd y sir rhwng 1 Awst a 8 Awst, ac mae dalgylch eleni hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin.
Bydd Pentre’r Garreg Las, Cyngor Sir Penfro a’r ardal bartneriaid ar y Maes yn arddangos ac yn dathlu’r sir, gyda rhaglen lawn o sgyrsiau, perfformiadau ac arddangosiadau wedi’u cynllunio ar gyfer Pabell Pawb.
Mae ap yr Eisteddfod Genedlaethol bellach yn fyw, yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y Maes bob dydd, gan gynnwys amserlen lawn ar gyfer Pentre’r Garreg Las.
Mae’r ap yn cynnwys rhaglen lawn yr ŵyl a manylion cystadlaethau ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las 2026, gan ganiatáu i ymwelwyr gynllunio eu hymweliadau ac osgoi colli unrhyw un o’u hoff uchafbwyntiau.
Mae’r ap ar gael yma:
https://apps.apple.com/gb/app/eisteddfod/id1413186382
Eisteddfod – Apiau ar Google Play
Eleni mae 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ychydig filltiroedd o’r safle yng Nghastell Aberteifi, ac mae’r ŵyl boblogaidd hon yn dod â pherfformwyr, awduron, artistiaid, corau, cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru ynghyd am wythnos o gystadlaethau, cyngherddau ac arddangosfeydd.