Eisteddfod y Garreg Las - Dim ond 25 diwrnod i fynd
Eisteddfod y Garreg Las - 25 days to go
Mae’r cyffro’n cynyddu wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol agosáu, ac mae’r gwaith yn dechrau ar y maes yng ngogledd sir Benfro.
Heddiw, 7 Gorffennaf, mae 25 diwrnod tan bod Eisteddfod y Garreg Las yn agor ei drysau i ymwelwyr a dathlu iaith, creadigrwydd a diwylliant Cymru.
Cynhelir yr ŵyl yn Llantwd rhwng 1 Awst ac 8 Awst, ac mae dalgylch eleni hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin, gan helpu i gysylltu pobl leol â'r dathliadau.
Mae paratoadau’n parhau ar gyfer Pentre’r Garreg Las, ardal Cyngor Sir Penfro a phartneriaid ar y maes, a fydd yn arddangos ac yn dathlu’r hyn sydd gan y sir i’w gynnig.
Mae manylion rhaglen lawn wrthi’n cael eu cwblhau ar gyfer Pabell Pawb, a bydd yn cynnwys cymysgedd cyfoethog o sgyrsiau, cerddorion talentog ac arddangosiadau.
Eleni mae hi’n 850 mlynedd ers cynnal yr eisteddfod gyntaf ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Nghastell Aberteifi, ac yn ddiweddar bu pyped enfawr o’r sylfaenydd, yr Arglwydd Rhys, a adeiladwyd gan Theatr Byd Bach, yn swyno cymunedau wrth iddo deithio o amgylch yr ardal.
Mae'r ŵyl flynyddol hon yn dod â pherfformwyr, awduron, artistiaid, corau, cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru ynghyd am wythnos o gystadlaethau, cyngherddau ac arddangosfeydd.
Mae mwy o wybodaeth am yr Eisteddfod ar gael yn: https://eisteddfod.cymru/amdanom-ni