
Digwyddiad galw heibio cymorth i entrepreneuriaid
Entrepreneur support drop-in event
Gwahoddir entrepreneuriaid yng ngogledd Sir Benfro i ddigwyddiad galw heibio yn Neuadd y Dref Abergwaun fis nesaf.
Cynhelir y digwyddiadau bob tri mis, wedi’u cefnogi gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Gwaith yn yr Arfaeth, gyda Thîm Datblygu Busnes Cyngor Sir Penfro yn bresennol, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau eraill.
Gwahoddir cwmnïau sefydledig, gweithwyr llawrydd neu'r rhai sy'n ystyried busnes newydd, i fynychu digwyddiad nesaf Abergwaun, a gynhelir ddydd Mawrth, 13 Mai, 10am i 12pm.
Gall mynychwyr drafod ystod eang o bynciau gan gynnwys rhwydweithiau mentrau cymdeithasol, cyllid, cynlluniau busnes a darganfod mwy am ble i gael mynediad at gymorth cyffredinol ar bob cam o'r daith fusnes.
Mae Tîm Cymorth Busnes Sir Benfro hefyd yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio Galw Heibio yng Nghanolfan Arloesi'r Bont, Doc Penfro ar ddydd Gwener olaf pob mis, 9am i 12pm.