Brynconin

Arolygwyr ESTYN yn canmol Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog i fod yn gymunedau ‘hapus, cynhwysol, diogel a chefnogol’

ESTYN inspectors praise the Federation of Ysgol Brynconin and Ysgol Maenclochog as ‘happy, inclusive, safe and supportive’ communities

Rhannu:

Ymwelodd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, â Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog ym mis Mai, ac mae wedi rhyddau ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad llawn o’r Ffederasiwn.

Nodwyd yr adroddiad:

  • Mae gan y ddwy Ysgol ddiwylliant cryf o ran diogelu disgyblion.
  • Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn gymuned diogel, cynhwysol a chefnogol.
  • Nodwyd bod staff y ddwy Ysgol yn ymrwymo i sicrhau ansawdd uchel o ofal a lles disgyblion gan greu awyrgylch dysgu cartrefol a chefnogol.
  • Mae’r ddwy Ysgol yn gymunedau cadarnhaol sy’n seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth.
  • Yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, mae llawer o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd da yn eu medrau.
  • Nodwyd fod cynorthwywyr dysgu yn aelodau gwerthfawr o dîm yr Ysgol ac yn gweithio’n ddiwyd a medrus wrth gefnogi disgyblion.
  • Nodwedd gref y ddwy Ysgol yw y cyfleoedd bwriadus a roddir i’r disgyblion i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n ymwneud â bywyd yr Ysgol. Mae cyfraniad y disgyblion at fywyd a gwaith yr ysgolion yn effeithiol.
  • Mae’r berthynas rhwng yr ysgolion a’r gymuned yn hynod gadarn ac mae rhieni yn falch bod eu plant yn mynychu ysgolion ac yn gwerthfawrogi natur ofalgar a’r cyfleoedd eang sydd ar gael.
  • Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth ofalgar a phwrpasol ac yn hyrwyddo gweledigaeth glir ar gyfer y ddwy Ysgol.

 

Maenclochog

Dywedodd y Pennaeth, Edryd Eynon: 

“Hoffwn ganmol y staff a’r llywodraethwyr rhagorol sydd yn gweithio’n ddi-baid a diwyd i sicrhau bod pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a bod eu lles a’u cynnydd yn eu dysgu yn hollbwysig.

“Mae Ffederasiwn Ysgol Brynconin ac Ysgol Maenclochog yn ysgolion y gall ein disgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach fod yn falch iawn ohonynt.”