Estyn yn canmol Ysgol Ger y Llan am ei 'chymuned hapus, ofalgar a chynhwysol'
Ysgol Ger y Llan praised by Estyn for its ‘happy, caring and inclusive community’
Mae cymuned Ysgol Ger y Llan yn falch iawn o groesawu adroddiad diweddar yr ysgol, sy'n tynnu sylw at ystod eang o gryfderau ac yn cydnabod ymroddiad disgyblion, staff, arweinwyr, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol.
Wrth wraidd yr adroddiad mae'n dweud bod Ysgol Ger y Llan yn "gymuned hapus, ofalgar a chynhwysol", lle mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda, yn trin eraill gyda pharch ac yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu trin yn deg.
Mae'r adroddiad yn canmol y profiadau dysgu diddorol a chyffrous a ddarperir gan athrawon, sy'n ysbrydoli disgyblion i gyflawni arwyddair yr ysgol sef "gwneud eu gorau glas."
Mae cwricwlwm cytbwys a diddorol yr ysgol wedi'i wreiddio'n gadarn yn yr ardal leol, gan helpu disgyblion i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth fel dinasyddion eu cymuned, Cymru a'r byd ehangach.
Mae'r ysgol yn arbennig o falch o'r gydnabyddiaeth a roddir i'r Gymraeg a hunaniaeth Gymreig. Mae staff yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo'r Gymraeg drwy gydol bywyd yr ysgol, tra bod gwaith diweddar i ddatblygu Cymraeg llafar disgyblion wedi cael "effaith gadarnhaol iawn" ar eu sgiliau ar draws yr ysgol.
Cryfder nodedig arall yw'r "cydweithredu hynod effeithiol" rhwng athrawon a chynorthwywyr addysgu. Mae'r adroddiad yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar gynnydd disgyblion a'r "ymdeimlad hyfryd o gymuned" o fewn yr ysgol. Trwy weithgareddau diddorol a phrofiadau dysgu dychmygus, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos "brwdfrydedd, annibyniaeth ac awydd naturiol i ddysgu."
Mae'r adroddiad hefyd yn canmol arweinyddiaeth brofiadol yr ysgol, cefnogaeth effeithiol gan lywodraethwyr a darpariaeth gref i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd Christa Richardson, Pennaeth Ysgol Ger y Llan: "Rydym yn hynod falch bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r hyn sydd mor arbennig am Ysgol Ger y Llan - ein plant, ein staff a'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
"Mae cael eich disgrifio fel cymuned hapus, gofalgar a chynhwysol yn golygu llawer iawn i ni. Rydym yn arbennig o falch bod yr adroddiad yn cydnabod brwdfrydedd ein disgyblion dros ddysgu, gwaith tîm eithriadol ein staff, a'n hymrwymiad i'r Gymraeg, ein gwerthoedd a'n cymuned leol.
"Mae'r adroddiad yn rhoi llawer i ni ddathlu, tra hefyd yn nodi meysydd lle gallwn barhau i ddatblygu. Byddwn yn adeiladu ar ein cryfderau ac, yn unol â'n harwyddair ysgol, yn parhau i 'wneud ein gorau glas' i bob disgybl.
"Hoffwn ddiolch i'n plant, staff, llywodraethwyr, rhieni a'n cymuned ehangach am eu cyfraniad i wneud Ysgol Ger y Llan yn lle mor arbennig i ddysgu, tyfu a ffynnu."