Arolygiad ardderchog ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
Excellent inspection for Tenby Church in Wales Primary School
Mae'r llywodraethwyr a'r staff yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn falch iawn eu bod wedi derbyn eu hadroddiad arolygu gan Estyn heddiw, dydd Gwener 10 Ionawr, yn dilyn arolygiad llawn yn gynnar ym mis Tachwedd 2024. Mae'r adroddiad disglair yn canmol yr ysgol am ei gofal a'i chefnogaeth i ddisgyblion.
Mae'n dweud: "Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol lle mae’r pwyslais ar werthoedd yn sail i'w gwaith. Mae arweinwyr yn rhoi pwys mawr ar les disgyblion. Mae'r disgyblion yn cael gofal da ac yn teimlo'n ddiogel. Mae'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac mae awyrgylch tawel yn yr ysgol."
Nododd yr arolygwyr y safonau uchel a'r cynnydd cryf y mae disgyblion o bob gallu yn ei wneud. Cafodd cefnogaeth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ganmoliaeth arbennig.
"Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu wrth iddynt symud drwy'r ysgol. Mae ganddynt agweddau cadarnhaol at ddysgu ac maent yn adlewyrchu'n bwrpasol ar eu gwaith i sicrhau gwelliannau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY yn gryfder i'r ysgol ac yn cefnogi'r disgyblion hyn i wneud cynnydd da tuag at eu targedau unigol."
Mae llywodraethwyr a staff yn falch bod arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd y tîm staff cyfan wedi cael ei gydnabod fel cryfder.
"Mae'r Pennaeth yn darparu arweinyddiaeth gref. Mae wedi adeiladu tîm staff effeithiol sy'n rhannu ei weledigaeth. Mae llywodraethwyr yn wybodus am gryfderau'r ysgol a'r meysydd i'w datblygu ac yn cynnig her addas.
"Ar draws yr ysgol, mae yna ddiwylliant o wella addysgu a dysgu. Mae uwch arweinwyr yn gweithio'n effeithiol i hyrwyddo hyn ac i ddarparu cefnogaeth a dysgu proffesiynol i'r holl staff. Mae arweinwyr yn rheoli newid yn eithriadol o dda ac mae hyn wedi helpu'r ysgol i gynnal ei hanes o sicrhau gwelliant."
Mae dwy elfen o arfer da wedi’u nodi yn adroddiad arolygu yr ysgol; un ar gyfer 'cwricwlwm ysbrydoledig' (cynnig cwricwlwm yr ysgol i blant) ac un arall ar gyfer 'rheoli newid' (arweinwyr sy'n rheoli newid i sicrhau ansawdd).
Gwnaeth yr adroddiad un argymhelliad i helpu'r ysgol i barhau i wella: gwella arweinyddiaeth disgyblion a llais disgyblion yn natblygiad strategol yr ysgol. Bydd yr ysgol nawr yn llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn.
Dywedodd John Palmer, Pennaeth Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod: "Ar ran cymuned ein hysgol rwy'n teimlo'n hynod falch o fod wedi derbyn adroddiad arolygu mor rhagorol. Mae'n tynnu sylw at waith caled a llwyddiannau staff, plant, rhieni a llywodraethwyr ac rydym yn teimlo ei fod yn cyfleu ein hysgol a'i gweledigaeth a'i gwerthoedd yn berffaith."
Dywedodd Mrs Anne Ponisch, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae'n bleser gweld gwaith caled ac ymroddiad pawb sy'n gweithio yn yr ysgol yn cael eu cydnabod a'u canmol yn yr adroddiad rhagorol hwn. Mae'n adlewyrchu'r cydweithio cadarnhaol iawn sy'n bodoli rhwng ein cymuned leol, rhieni, staff, llywodraethwyr a phlant. Mae'n disgrifio’n dda yr ysgol hapus ac arloesol yr ydym ni i gyd yn teimlo'n freintiedig i'w charu a bod yn rhan ohoni.”
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Rwy'n llongyfarch Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod am gyflawni'r adroddiad rhagorol hwn.
"Nid yw adroddiadau arolygu fel hyn yn digwydd ar hap, maen nhw'n ganlyniad ymroddiad a gwaith caled a chefnogaeth gan gymuned yr ysgol gyfan."
Gellir dod o hyd i'r adroddiad arolygu llawn ar wefan Estyn drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod - Estyn