Cynnydd ardderchog ar adeiladu adeilad newydd ysgol isaf Ysgol Portfield
Excellent progress on construction of new lower school building at Portfield School
Mae disgyblion o Ysgol Portfield wedi cael y cyfle cyffrous i adael eu marc ar hanes wrth i'r gwaith barhau yn eu hysgol newydd wych.
Mynychodd y disgyblion ddigwyddiad i nodi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad newydd, a elwir yn draddodiadol yn seremoni 'gosod y garreg gopa'.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion lofnodi un o'r trawstiau dur cyntaf, a gadael olion llaw ar wal, sy'n symbol o'u rôl wrth wraidd cymuned yr ysgol a'r dyfodol disglair sydd o'u blaenau.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd ac roedd staff, disgyblion, llywodraethwyr, uwch swyddogion y Cyngor a swyddogion o dîm y prosiect yn bresennol i ddathlu'r garreg filltir allweddol.
Dywedodd y pennaeth Sarah Hartley: "Roeddem wrth ein bodd i gynnwys ein disgyblion yn y foment bwysig hon. Mae'r adeilad newydd yn cynrychioli pennod newydd i Ysgol Portfield, ac mae'n wych bod ein plant wedi gallu bod yn rhan o'i sylfeini."