English icon English
Ysgol Gymraeg Bro Penfro 2

Cynnydd ardderchog ar adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd Ysgol Gymraeg Bro Penfro

Excellent progress on construction of new Welsh medium primary school Ysgol Gymraeg Bro Penfro

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar safle'r Ysgol Gymraeg Bro Penfro newydd ym Mhenfro ddydd Mawrth 14 Tachwedd i nodi cyrhaeddiad pwynt uchaf yr adeilad, a elwir yn draddodiadol yn seremoni ‘gosod y garreg gopa’.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Morgan Sindall Construction & Infrastructure Ltd ac yn bresennol roedd disgyblion a staff Ysgol Gelli Aur, Pennaeth Gweithredol yr ysgol newydd, llywodraethwyr Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Penfro, aelodau Cabinet, uwch swyddogion y Cyngor, ac aelodau o dîm y prosiect.

Ysgol Gymraeg Bro Penfro 1

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, ei fod yn hynod falch o'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

"Er nad oeddwn i’n gallu mynychu'r seremoni yn anffodus, mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi rhannu eu profiad gyda mi, a'r cynnydd rhagorol sy'n cael ei wneud ar yr ysgol newydd. 

"Rwy'n arbennig o falch bod y prosiect yn parhau i fod o fewn y gyllideb, ac yn unol â’r rhaglen, sy'n golygu y bydd Ysgol Gymraeg Bro Penfro mewn sefyllfa i dderbyn disgyblion ym mis Medi 2024."

Mynegodd aelodau o Gorff Llywodraethu Dros Dro yr ysgol eu llawenydd gyda'r adeilad.

Cadarnhaodd Pennaeth Gweithredol Ysgol Bro Penfro, Mr Dafydd Hughes, fod disgyblion a staff wedi mwynhau'r digwyddiad yn fawr a bod pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol yn gyffrous am y posibilrwydd o symud i'r ysgol newydd y flwyddyn nesaf.

"Mae'r ffaith bod ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hadeiladu ym Mhenfro yn ddatblygiad pwysig a chyffrous ar gymaint o lefelau.

"Fel Pennaeth Gweithredol Ysgol Bro Penfro rwyf wedi ymrwymo i sicrhau, pan fydd yr ysgol yn agor ei drysau ym mis Medi 2024, y bydd pob disgybl yn cael cyfleoedd i ffynnu a llwyddo mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg croesawgar. Rwyf hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymuned gyfan Penfro yn ymfalchïo yn yr ysgol."       

Roedd y disgyblion yn gyffrous iawn i weld yr ysgol newydd. Ymhlith y sylwadau a dderbyniwyd oedd: "Roeddem wrth ein bodd yn llofnodi'r dur, bydd yn ein helpu i gofio pan ddaethom ni yma pan oedd ein hysgol yn cael ei hadeiladu a byddwn bob amser yn rhan o'n hysgol newydd"

"Rwy'n gweld bod pawb yn gweithio'n galed iawn i adeiladu ein hysgol. Mae'r ysgol gymaint yn fwy na'r disgwyl, ac ni allwn aros i ddechrau dysgu yn ein dosbarthiadau newydd".

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, a bydd yn gyfraniad sylweddol i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor.

Nodiadau i olygyddion

Capsiynau:

Cynnydd da ar safle Ysgol Gymraeg Bro Penfro.

Mae disgyblion Ysgol Gelli Aur yn mwynhau eu taith.