Dyfodol cyffrous wrth i fasnachwyr gymryd drosodd Marchnad Ffermwyr Hwlffordd
Exciting future as traders take over Haverfordwest Farmers Market
Mae'n gyfnod cyffrous i Farchnad Ffermwyr boblogaidd Hwlffordd wrth i'r masnachwyr gymryd yr awenau yn swyddogol a chynnal y farchnad wythnosol yn Sgwâr y Castell.
Mae Cyngor Sir Penfro, gyda chymorth PAVS, wedi cynorthwyo’r masnachwyr i weithredu'n annibynnol trwy Gwmni Buddiant Cymunedol cofrestredig.
Mae hyn yn golygu y gall y Farchnad Ffermwyr, a sefydlwyd yn gyntaf gan y Cyngor ym 1999, barhau i dyfu a defnyddio opsiynau cyllido eraill nad oeddent ar gael yn flaenorol.
Dywedodd Carla Thomas, Cadeirydd Marchnad Ffermwyr Hwlffordd: "Mae dod yn Gwmni Buddiant Cymunedol yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ein cenhadaeth o gefnogi cynhyrchwyr lleol a chreu system fwyd gynaliadwy.
"Rydym yn edrych ymlaen at dyfu gyda'n cynhyrchwyr a'n cwsmeriaid fel marchnad ffermwyr annibynnol, gan greu canolbwynt bywiog ar gyfer bwyd ffres ac ymgysylltu â'r gymuned."
"Rydym yn diolch o galon i'r Cyngor am eu cefnogaeth ddiwyro dros y blynyddoedd. Mae eu harweiniad wedi bod yn allweddol yn ein twf."
Dywedodd Joe Welch, Swyddog Datblygu Bwyd a chyn Rheolwr Marchnad Cyngor Sir Penfro: "Ar ôl gweithio gyda Marchnad Ffermwyr Hwlffordd am dros 20 mlynedd, rwy'n falch iawn o weld y bennod gyffrous nesaf hon i'r farchnad.
"Mae'n farchnad hyfryd gydag amrywiaeth o gynnyrch lleol a chymysgedd gwych o gynhyrchwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cael cefnogaeth dda ac yn parhau i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol."
Ychwanegodd Peter Lord, Prif Swyddog Cymorth Busnes: "Mae'r Farchnad Ffermwyr yn dod â chynnyrch a bywiogrwydd o safon i'r dref sirol.
"Mae cefnogi'r farchnad nawr ei bod yn annibynnol yn hanfodol i'w helpu i dyfu ac ategu blynyddoedd o waith caled. Mae cyfnod cyffrous o'n blaenau."
Dathlodd y farchnad ei 20fed flwyddyn yn 2019 ac mae bellach yn un o'r marchnadoedd sydd wedi bodoli hiraf yng Nghymru.
Bydd y farchnad yn parhau i weithredu bob dydd Gwener, 9am – 2pm ar Sgwâr y Castell.
I gysylltu â'r farchnad, e-bostiwch haverfordwestfm@outlook.com a dilynwch y farchnad ar Facebook: https://www.facebook.com/Haverfordwestfarmersmarket
Nodiadau i olygyddion
Llun
Masnachwyr Marchnad Ffermwyr Hwlffordd, Swyddog Bwyd Cyngor Sir Penfro Joe Welch a Peter Lord, Prif Swyddog y Cyngor, Datblygu Busnes, ym marchnad Sgwâr y Castell.