Arddangosfa yn dathlu traddodiad yr Eisteddfod Genedlaethol cyn Eisteddfod y Garreg Las
Exhibition celebrates National Eisteddfod tradition ahead of Eisteddfod y Garreg Las
Mae arddangosfa fawr sy'n archwilio hanes a thraddodiadau cyfoethog Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'w gweld ar hyn o bryd yng Nglan-yr-afon: Llyfrgell, Oriel a Gwybodaeth i Ymwelwyr yn Hwlffordd, wrth i Sir Benfro baratoi i groesawu Eisteddfod y Garreg Las.
Mae’r arddangosfa A Oes Heddwch: Traddodiad yr Eisteddfod yn cyflwyno detholiad diddorol o eitemau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnig cyfle i ymwelwyr ddarganfod hanes gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru.
Daw'r arddangosfa ar adeg arbennig o arwyddocaol, gydag Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd, yng nghanol gogledd Sir Benfro, rhwng 1 a 8 Awst 2026.
Gwahoddir ymwelwyr sy'n teithio i'r Eisteddfod Genedlaethol i ymestyn eu hymweliad â Sir Benfro drwy ddod i weld yr arddangosfa a darganfod mwy am hanes yr Eisteddfod yn Llyfrgell ac Oriel Glan-yr-afon yn Hwlffordd.
Gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol pwysig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r arddangosfa yn cynnwys pedair adran dan y themâu: Hanes yr Eisteddfod, O amgylch yr Orsedd, Yn y Pafiliwn, ac Ar y Maes. Gyda'i gilydd, maent yn archwilio datblygiad mudiad yr Eisteddfod a'i ddylanwad parhaol ar ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru.
Prif uchafbwynt yr arddangosfa yw Brut y Tywysogion, yr unig gofnod gwreiddiol sydd wedi goroesi o'r Eisteddfod gyntaf, sy'n nodi ei phen-blwydd yn 850 eleni.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176, yng Nghastell Aberteifi, cartref yr Arglwydd Rhys, a wahoddodd feirdd a cherddorion o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Y wobr am y bardd a'r cerddor gorau oedd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd Rhys yn ystod y wledd ddathlu, gan sefydlu'r traddodiad o gadeirio'r Prifardd sy'n parhau i fod yn nodwedd ganolog o'r Eisteddfod heddiw.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae llun o drefnwyr Eisteddfod Rhuthun yn 1868, sef y ffotograff cynharaf yn ymwneud â'r Eisteddfod Genedlaethol yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu gweld arteffactau gwerthfawr sy'n ymwneud ag Eisteddfod flaenorol Sir Benfro, gan gynnwys y Rhaglen Swyddogol o Abergwaun, 1936, a chynllun o Faes Eisteddfod Hwlffordd yn 1972.
Ynghyd ag A Oes Heddwch, gall ymwelwyr hefyd weld arddangosfa barhaol Oriel Glan-yr-afon, Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n dathlu hanes, diwylliant a thirwedd cyfoethog y sir.
Ymhlith yr eitemau dan sylw mae casgliad o ffotograffau du a gwyn hanesyddol, yn cynnwys golygfa o Hwlffordd gan Geoff Charles yn 1972 a ffotograff gan Julian Sheppard yn dangos y bardd Waldo Williams gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Wdig ar ddiwedd y 1960au. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys llawysgrif sy'n perthyn i Waldo Williams, llyfr braslunio sy'n eiddo i'r artist Elizabeth Haines, a chasgliad o weithiau celf wedi'u hysbrydoli gan arfordir Sir Benfro.
Bydd y ddwy arddangosfa yn parhau i gael eu harddangos tan yr hydref, gan gynnig cyfle i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol Cymru a stori unigryw Sir Benfro.
I unrhyw un sy'n dod i Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae Oriel Glan-yr-afon yn gyfle delfrydol i barhau â phrofiad yr Eisteddfod a dod i wybod am y bobl, y lleoedd a'r traddodiadau sydd wedi llunio bywyd diwylliannol Cymru ers cenedlaethau.
Gweler mwy am Glan-yr-afon: Llyfrgell, Oriel a Gwybodaeth i Ymwelwyr yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/glan-yr-afon
Nodiadau i olygyddion
Llun:
(c) Gareth Lloyd Hughes, Y Gwir yn Erbyn y Byd, 1975.