English icon English
Pentyrrau o wastraff cartref y tu allan i eiddo Vicary Crescent a arweiniodd at erlyniad

Methu cael gwared ar sbwriel yn arwain at ddirwy

Failure to remove rubbish results in fine

Mae pâr o Aberdaugleddau wedi cael dirwy am fethu cydymffurfio â Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn ymwneud â chael gwared ar sbwriel y tu allan i’w cartref.

Erlynwyd Gavin a Marie Danielle James o Vicary Crescent yn Llys Ynadon Hwlffordd ar ôl i wastraff y cartref a sbwriel gronni y tu allan i’w cartref yn barhaus er haf 2020.

Roedd Cyngor Sir Penfro wedi cyflwyno Hysbysiadau dan Ddeddf Atal Difrod gan Blâu 1949 ar dri achlysur a chyflogwyd contractwyr preifat i lanhau pan na weithredwyd ar y rhain.

Gan i wastraff y cartref a sbwriel barhau i gronni, a ddenodd bla o lygod mawr, cyflwynwyd Hysbysiad Gwarchod y Gymuned dan Adran 43 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ym mis Chwefror.

Nid oedd tenantiaid Cyngor Sir Penfro yn bresennol yn y llys pan glywyd eu hachos ddydd Iau 1 Mehefin.

Cawsant ddirwy o £180 yr un, ynghyd â gordaliadau a chostau, gyda chyfanswm o £991.40 yn ddyledus i’r llys gan y ddau ohonynt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol, y Cynghorydd Michelle Bateman: “Mae hwn yn ganlyniad llwyddiannus i Gyngor Sir Penfro ac yn dangos yr eir i’r afael â thenantiaid sy’n achosi peryglon amgylcheddol.

“Roedd y pâr hwn yn gwrthod ymgysylltu â swyddogion y Cyngor i gael gwared ar y gwastraff a oedd wedi cronni, a ddenodd lygod mawr i’r ardal hon, ac mae’r canlyniad cyfreithiol hwn o ganlyniad i’r ymddieithriad hwn.

“Byddem yn annog preswylwyr sy’n cael trafferth storio a chyflwyno gwastraff i gysylltu â staff y Cyngor, sy’n gallu cynnig cyngor ac arweiniad ar y materion hyn.”