Croeso gwych i'r Waverley
Fantastic welcome for The Waverley
Fe wnaeth miloedd o bobl groesawu llong stêm hanesyddol y Waverley i Ddinbych-y-pysgod ac Aberdaugleddau dros y penwythnos.
Roedd meysydd parcio Dinbych-y-pysgod yn llawn dop ddydd Sadwrn ac roedd y mannau gwylio uwchben yr harbwr yn fwrlwm gyda phobl yn awyddus i gael cipolwg ar y llong drawiadol.
Gwnaeth cyfanswm o ryw 1,000 o deithwyr lanio neu fynd ar fwrdd y llong yn Ninbych-y-pysgod i fynd ar daith o amgylch arfordir de Sir Benfro, a chynhaliwyd mordeithiau tebyg o Aberdaugleddau ddydd Sul hefyd.
Y Waverley, a adeiladwyd ym 1947, yw'r llong stêm olaf yn y byd sy’n dal i deithio ar y môr a chasglodd torfeydd i groesawu'r llong yn ôl i Ddinbych-y-pysgod ar ôl 30 mlynedd.
Bu swyddogion Cyngor Sir Penfro yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod yr ymweliad yn llwyddiant ac roeddynt hefyd yn sicrhau bod Gŵyl Bwyd Stryd Sir Benfro ym maes parcio Traeth y De yn mynd yn unol â’r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Diolch i holl staff y Cyngor - o swyddogion yr harbwr i'r timau parcio a glanhau - sy'n sicrhau bod y digwyddiad hwn, a'r llu o rai eraill a gynhelir ledled y sir, yn llwyddiant.
"Rwy'n siŵr bod y rhai a welodd y Waverley yn cyrraedd a'r rhai a fu’n ddigon ffodus i fynd ar fwrdd y llong wedi cael profiad gwych."