English icon English
Newgale

Ystyried adborth ar gynllun Addasiad Arfordirol Niwgwl

Feedback on Newgale Coastal Adaptation plan considered

Dechreuodd yr Ymgynghoriad Statudol cyn ymgeisio ar gyfer Cynigion Cam 1 Addasiad Arfordirol Niwgwl ddydd Llun 14 Ebrill a pharhaodd am gyfnod o 28 diwrnod tan ddydd Sul 11 Mai yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd).

Hoffai'r Cyngor ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, ac mae Tîm y Prosiect bellach yn y broses o ystyried yr adborth a dderbyniwyd yn ofalus.

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu hadrodd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel rhan o'r broses cyflwyno ceisiadau cynllunio.

I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect, ewch i wefan Addasiad Arfordirol Niwgwl

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am pam mae'r Prosiect yn angenrheidiol, sut mae'r Prosiect wedi esblygu dros amser trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a chanlyniad adroddiadau technegol a Rhaglen y Prosiect.

Mae adran Cwestiynau ac Atebion defnyddiol ar wefan y Prosiect hefyd a thrwy'r adran 'Cysylltu â ni', gallwch gofrestru eich manylion i sicrhau eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am y Prosiect.