Gofyn am adborth ar wasanaethau ar-lein Fy Nghyfrif y Cyngor
Feedback wanted on Council’s My Account online services
Gofynnir i ddefnyddwyr Fy Nghyfrif, Cyngor Sir Penfro, am adborth i helpu i barhau i wella eu profiad.
Fy Nghyfrif yw'r platfform ar gyfer holl wasanaethau ar-lein y Cyngor.
Mae Fy Nghyfrif yn caniatáu i gwsmeriaid wneud taliadau, adrodd problemau, cofrestru ar gyfer hysbysiadau gwasanaeth fel casgliadau gwastraff ac ailgylchu a chau ysgolion, a gwirio ceisiadau cynllunio lleol. Dim ond rhai o'r gwasanaethau sydd ar gael yw’r rhain.
Bydd yr arolwg yn cymryd llai na phum munud i'w gwblhau. Cwblhewch yr arolwg cyn dydd Mercher 27 Tachwedd.
Os nad ydych yn defnyddio Fy Nghyfrif ar hyn o bryd, gallwch gofrestru ar-lein.