Mwy am Brosiect Addasu'r Arfordir wrth i gynlluniau ddatblygu ar gyfer Niwgwl
Find out more about Coastal Adaptation Project as plans for Newgale progress
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnal dau ddigwyddiad cyhoeddus i ddangos i bobl sut mae ein cynlluniau ar gyfer addasu i effeithiau newid hinsawdd yn Niwgwl wedi datblygu dros amser.
Mae Prosiect Addasu Arfordirol Niwgwl wedi bod ar waith ers peth amser. Trwy ymgysylltu parhaus a chasglu gwybodaeth, mae ein cynigion bellach wedi esblygu.
Yn ystod y cam yma, hoffem rannu ein barn a’n syniadau gyda chi. Rydym yn eich gwahodd i ddod i un o'n sesiynau cyhoeddus a fydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 29 Ionawr a dydd Sadwrn, 1 Chwefror.
Bydd y rhai sy'n gysylltiedig â’r prosiect dan arweiniad Cyngor Sir Penfro wrth law i egluro elfennau'r cynllun sy'n ffurfio Cam 1 y prosiect ac ateb cwestiynau. Mae hefyd yn gyfle i chi rannu eich barn gyda'r tîm.
Un o nodau allweddol y prosiect yw sicrhau bod Niwgwl yn cael ei gefnogi i ddod yn gymuned gadarn a all addasu i arfordir a hinsawdd sy'n newid.
Mae'r Cyngor wedi penodi AtkinsRéalis i helpu gyda datblygiad y prosiect oherwydd eu gwasanaethau amgylcheddol cwbl integredig ac arbenigol.
Mae pedair prif elfen i'r cynllun yn y cam cyntaf – ailgyfeirio rhan o’r A487 yn Niwgwl, creu llwybr cerdded a beicio newydd drwy'r pentref, newid mynediad i'r traeth a busnesau arfordirol a rhyddhau lle i'r traeth addasu'n naturiol i newid arfordirol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Drigolion, "Wrth i'r prosiect hwn ddatblygu, rydym yn gobeithio y bydd aelodau'r cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i wybod mwy am y cynllun arfaethedig ac yn gallu gwneud sylwadau uniongyrchol i staff sy'n ymwneud â'i ddatblygiad".
Cadwch y dyddiadau
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i roi eu barn, mae system apwyntiadau ar-lein ar gyfer pob digwyddiad cyhoeddus. I archebu eich lle, ewch i https://newgalecoastaladaptation.co.uk/#/
Byddwn yn cynnal y digwyddiadau canlynol ac yn gobeithio eich gweld chi yno:
Dydd Mercher 29 Ionawr 2025 - Neuadd Fictoria, Y Garn, 10am i 7pm
Dydd Sadwrn 1 Chwefror 2025 - Neuadd Goffa, Tyddewi, 10am i 4pm