English icon English
county hall river

Dirwyon wedi ymchwiliad Safonau Masnach

Fines imposed after Trading Standards investigation

Mae garddwr tirluno wedi ei ddirwyo wedi i gwynion arwain at ymchwiliad Safonau Masnach gan Gyngor Sir Penfro.

Cafodd cwynion eu gwneud gan gwsmeriaid Timothy Lovell o Under the Hills, Hwlffordd, ar ôl iddo wneud gwaith yn eu cartrefi.

Sefydlwyd bod Lovell wedi gwneud gwaith heb ddarparu gwaith papur hanfodol, gan gynnwys ei gyfeiriad busnes a'i hawliau canslo, sy'n ofynnol o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg.

Ymddangosodd Lovell yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Iau 23 Mai a phlediodd yn euog i ddau gyhuddiad.

Cafodd Lovell ddirwy o £300 am bob trosedd a gorchmynnwyd iddo hefyd dalu costau o £250 ynghyd â gordal dioddefwr o £240.

Dywedodd Jeff Beynon, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Penfro: "Rydym yn falch ei fod wedi pledio’n euog ac â lefel y dirwyon gan yr Ynadon.

"Rydym yn gobeithio y bydd yr achos hwn yn atgoffa bod yn rhaid darparu gwaith papur hanfodol wrth gytuno ar waith."

Dylai unrhyw un sy'n dymuno cwyno am waith a wnaed yn eu cartref gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 (Saesneg) neu 0808 223 1144 (Cymraeg). Yna bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu â’r Adran Safonau Masnach.