Ger Y Mor

Cartrefi cyntaf wedi’u cwblhau yn natblygiad Ger y Môr yn Llanusyllt

First Homes Delivered at Ger y Môr Development in Saundersfoot

Rhannu:

Mae carreg filltir arwyddocaol wedi’i chyrraedd wrth i Gyngor Sir Penfro gyhoeddi bod y tri chartref dwy ystafell wely cyntaf wedi’u cwblhau yn natblygiad Ger y Môr yn Llanusyllt, a ddarparwyd mewn partneriaeth â Persimmon Homes.

Bydd y datblygiad hwn yn cynnwys cyfanswm o 21 o gartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel, yn amrywio o fflatiau un ystafell wely i dai tair ystafell wely. Mae disgwyl i eiddo pellach gael eu cwblhau yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r cynllun yn bodloni ystod eang o anghenion tai lleol ac mae wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Persimmon Homes, y mae eu harbenigedd a'u hymrwymiad wedi bod yn hanfodol wrth gwblhau’r cartrefi cyntaf.

Mae'r datblygiad wedi'i gynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau bod tai fforddiadwy yn cael eu cynnwys ochr yn ochr ag eiddo preifat.

Mae'r dull hwn yn creu cymuned gytbwys a chynhwysol, gan annog integreiddio cymdeithasol drwy ddod â thrigolion o amrywiaeth o gefndiroedd ynghyd.

Drwy gynnal dyluniad ac ansawdd cyson ar draws pob cartref, mae'r cynllun yn hyrwyddo amgylchedd cymdogaeth gadarnhaol ac yn cefnogi ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn.

Yn rhan annatod o'r datblygiad mae'r polisi gosod tai lleol, sydd wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r gymuned leol ac sy'n blaenoriaethu ymgeiswyr sydd â chysylltiadau lleol cryf.

Mae hyn yn sicrhau bod trigolion lleol yn gallu aros yn y cymunedau hynny y mae ganddynt gysylltiadau hirdymor â nhw neu ddychwelyd iddynt.

Drwy ddarparu cartrefi yn y lleoliad arfordirol hwn ac ymateb yn uniongyrchol i'r angen lleol a nodwyd am dai, mae Cyngor Sir Penfro yn cefnogi cynaliadwyedd cymunedau ac yn gwella mynediad at dai addas i drigolion lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir Penfro: “O gwblhau’r cartrefi cyntaf hyn yn Ger y Môr rydym wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol i Lanusyllt ac wedi gwireddu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu mwy o dai fforddiadwy.

"Drwy gyfuno cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel â phwyslais cryf ar gysylltiadau lleol, bydd y datblygiad hwn yn helpu pobl leol i gael mynediad at dai diogel a pharhau i fod yn rhan o'r cymunedau y maent yn eu hadnabod ac yn eu gwerthfawrogi."

Dywedodd Stuart Phillips, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes Wales:  “Fel rhan o’n hymrwymiad i adael gwaddol cymunedol cadarnhaol yn y lleoedd hynny lle rydym yn adeiladu, mae Persimmon yn falch o fod yn partneru â Chyngor Sir Benfro i ddarparu cartrefi i bobl leol yn Llanusyllt.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gwneud cynnydd ar y gwaith hwn, gan drosglwyddo’r gyfran gyntaf hon o dai yn Ger y Môr, sydd, yn ein barn ni, yn nodi cyfraniad sylweddol i’r gymuned, gan helpu i leddfu’r pwysau ar yr angen am dai yn y pentref.

“Dod ag adeiladwyr tai Cymru fel ni ein hunain ac awdurdodau lleol yng Nghymru at ei gilydd yw’r ffordd orau o ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol, felly mae gweld hyn yn dwyn ffrwyth yma yn garreg filltir sy’n werth ei dathlu.”

Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o'r cartrefi sicrhau bod eu cais am dai yn gyfredol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost i’r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu ewch i dudalen Facebook Tai www.facebook.com/PCCHousing