English icon English
Armed Forces Day 2025 - Diwrnod y Lluoedd Arfog 2025

Chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Flying the flag for Armed Forces Day

Mae baner y Lluoedd Arfog yn chwifio'n falch yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn, 28 Mehefin.

Bu Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey, a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Simon Hancock yn nodi codi’r faner ddydd Mercher.

Dywedodd y Cynghorydd Hancock: "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle amserol i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n ffurfio Cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu, teuluoedd y llu, cyn-filwyr a chadetiaid.

"Mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn o gysylltiad hir y Sir â'r Lluoedd Arfog a'r llynedd cefais yr anrhydedd o dderbyn bathodyn anrhydedd uchaf y DU am gefnogi'r Lluoedd Arfog ar ran yr Awdurdod, Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

“Mae hyn yn cydnabod y gwaith y mae'r Awdurdod wedi'i wneud i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yma yn Sir Benfro ac yn tanlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod y berthynas gynnes rhwng Sir Benfro a'n Lluoedd Arfog yn parhau ymhell i'r dyfodol.”

Roedd codi'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y rhodd ddiweddar o ddarn o hanes milwrol Sir Benfro.

Cyflwynwyd bathodyn mawr RAF Brawdy gyda hanes byr canolfan yr Awyrlu Brawdy i'r Cyngor gan David Warneford a'i roi yn y dderbynfa.

RAF Brawdy badge 1 - Bathodyn RAF Brawdy 1

Mae'r arysgrif sy'n cyd-fynd â'r bathodyn yn dweud iddo gael ei gyflwyno "i werthfawrogi eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch" i bobl Sir Benfro gan Arweinydd Sgwadron Warneford, Prif Swyddog olaf RAF Brawdy ar ran pawb a wasanaethodd yno.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hancock: "Mae RAF Brawdy yn rhan o hanes milwrol Sir Benfro. Bydd gan gymaint o bobl Sir Benfro gysylltiadau â'r ganolfan a'r rhai a wasanaethodd yno. Mae'n anrhydedd arddangos y bathodyn hwn yn Neuadd y Sir.”

Gweld mwy o wybodaeth am Ddydd y Lluoedd Arfog yn: https://www.armedforcesday.org.uk/