English icon English
 Bwyd cropped

Digwyddiad rhwydweithio bwyd yn gwahodd masnachwyr o bob rhan o'r de-orllewin

Food networking event invites traders from across south west Wales

Gwahoddir masnachwyr i arddangos a blasu prif flasau de-orllewin Cymru mewn digwyddiad rhwydweithio bwyd y mis nesaf.

Mae'r sioe fasnach bwyd a diod Cyflenwr i Brynwr yn dychwelyd ddydd Mercher, 13eg Mawrth, 10am tan 3pm, a drefnwyd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cywain a Croeso Sir Benfro.

Mae lleoedd yn gyfyngedig a gofynnir i gyflenwyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb cyn gynted â phosibl drwy'r ddolen isod.

Yn cael ei gynnal yn lleoliad trawiadol tŷ gwydr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, disgwylir i'r digwyddiad ddenu cynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a dosbarthwyr o bob rhan o dde-orllewin Cymru ac mae'n cynnig cyfle i gynhyrchwyr lleol talentog arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Dywedodd Swyddog Datblygu Bwyd Cyngor Sir Penfro, Joe Welch: “Mae'n gyfle gwych i gynyddu'r cyfleoedd masnach trawsffiniol ac arddangos amrywiaeth a gwasanaethau cyfredol, newydd ac ychwanegol i fusnesau lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth ardal de-orllewin Cymru.

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Paul Miller, sydd hefyd yn Aelod Cabinet dros Lle, y Rhanbarth a Newid yn yr Hinsawdd: “Mae hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar draws de-orllewin Cymru. Byddwn yn annog masnachwyr i gymryd rhan a gobeithio gwneud cysylltiadau parhaol a fydd o fudd i bawb wrth symud ymlaen.”

Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i rwydweithio gydag eraill yn y diwydiant bwyd, gydag ardal benodol ar gael ar gyfer cyfarfodydd busnes.

Bydd gweminarau unigryw 'Paratoi ar gyfer Cyflenwr i Brynwr' a 'Selio'r Fargen' yn cael eu darparu i bob stondinwr sydd wedi cadw lle heb unrhyw dâl ychwanegol gan Cywain.

Food network event - Digwyddiad rhwydwaith bwyd-2

Dywedodd Alex James, Rheolwr Cywain: “Mae Cywain yn falch o fod yn gweithio mewn cydweithrediad â phartneriaid yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i gefnogi'r digwyddiad cyflenwr-i-brynwr hwn. Bydd hwn yn gyfle gwych i fusnesau bwyd a diod o'r ddwy sir arddangos eu cynnyrch anhygoel, creu cysylltiadau newydd a datblygu gwerthiannau o fewn y sector twristiaeth a lletygarwch.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin - y Cynghorydd Ann Davies: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i wneuthurwyr bwyd a diod yn Sir Gaerfyrddin hyrwyddo eu cynnyrch a datblygu perthynas ag eraill o fewn y sector er mwyn gwella eu busnesau eu hunain.”

Ychwanegodd Emma Thornton, Prif Swyddog Gweithredol Croeso Sir Benfro: “Mae Croeso Sir Benfro yn falch iawn o fod yn cefnogi sioe fwyd a diod Cyflenwr i Brynwr eleni.

“Mae mwynhau bwyd a diod lleol a chynnyrch lleol yn bwysig iawn i'n hymwelwyr ac mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos y gorau o'n cynhyrchwyr lleol i brynwyr ledled De-orllewin Cymru; digwyddiad gwych i greu cysylltiadau newydd.”

Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae'r pris yn £50 yr un. Bydd pob archeb wedi'i gadarnhau yn derbyn lle bwrdd safonol, cinio a diodydd drwy gydol y dydd.

Dylech gyflwyno datganiad o ddiddordeb drwy'r ddolen: https://forms.office.com/e/9chMcAQnX9