Foster Wales allowances - Lwfansau maethu Cymru

Maethu Cymru Sir Benfro yn gwella cymorth i ofalwyr maeth lleol

Foster Wales Pembrokeshire enhances support for local foster carers

Rhannu:

Mae Maethu Cymru Sir Benfro wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant lleol, gan sicrhau y gallant aros yn eu cymunedau gyda chymorth teuluoedd maeth ymroddedig.

Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus hwn, mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi cynnydd mewn lwfansau gofalwyr maeth o fis Ebrill 2026.

Mae’r lwfansau diweddaraf wedi’u cynllunio i adlewyrchu’n well cost wirioneddol darparu gofal o ddydd i ddydd, ac i gydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae ym mywydau plant. Bydd manylion llawn y cyfraddau newydd yn cael eu rhannu â gofalwyr maeth.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant, Chris Frey-Davies: “Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu sefydlogrwydd, gofal a gobaith i blant sydd ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir i gyflawni’r gwaith hwn sy’n newid bywydau, ac mae’r lwfansau gwell hyn yn rhan bwysig o hynny. Rydym yn hynod falch o’r gwahaniaeth y mae ein gofalwyr maeth yn ei wneud yn Sir Benfro.”

Mae Sir Benfro hefyd yn cyflwyno menter beilot dwy flynedd newydd sy’n cynnig taliadau treth gyngor is i ofalwyr maeth cymwys. Cysylltir â’r gofalwyr maeth yn uniongyrchol gyda gwybodaeth am sut y bydd y cynllun yn gweithio.

Gall unrhyw un sy’n ystyried maethu elwa o gyfoeth o gymorth lleol, gan gynnwys mynediad at dimau arbenigol, gweithwyr cymdeithasol ymroddedig, rhwydweithiau cymunedol cryf, a’r cyfle i helpu plant i aros yn agos at gartref.

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Benfro, ffoniwch 01437 774650, anfonwch neges e-bost i fptadmin@pembrokeshire.gov.uk, neu ewch i https://sirbenfro.maethucymru.llyw.cymru/