car parking - parcio

Parcio am ddim yn dychwelyd ar benwythnosau ym mis Rhagfyr

Free December weekend car parking returns

Rhannu:

Bydd modurwyr yn gallu parcio am ddim unwaith eto ym mhob un o’r meysydd parcio yn nhrefi Cyngor Sir Penfro ar ddydd Sadwrn a dydd Sul y mis Rhagfyr hwn.

Bydd modd parcio am ddim ar y dyddiadau canlynol:

  • 2 a 3 Rhagfyr
  • 9 a 10 Rhagfyr
  • 16 ac 17 Rhagfyr
  • 23 a 24 Rhagfyr
  • 30 a 31 Rhagfyr

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Rydym ni’n falch o allu darparu parcio yn rhad ac am ddim ym meysydd parcio ein Cyngor am benwythnosau ym mis Rhagfyr eto eleni.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar hyn ac yn cefnogi ein siopau a’n busnesau lleol y Nadolig hwn.”