Parcio am ddim ym meysydd parcio'r Cyngor bob penwythnos ym mis Rhagfyr
Free December weekend parking in Council car parks
Bydd holl feysydd parcio trefi Cyngor Sir Penfro am ddim unwaith eto i fodurwyr ar benwythnosau ym mis Rhagfyr.
Bydd parcio am ddim ym mis Rhagfyr ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Sul 1af,
Dydd Sadwrn 7fed, Dydd Sul 8fed,
Dydd Sadwrn 14eg, Dydd Sul 15fed,
Dydd Sadwrn 21ain, Dydd Sul 22ain,
Dydd Sadwrn 28ain, Dydd Sul 29ain.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig parcio am ddim ar benwythnosau ym mis Rhagfyr unwaith eto eleni.
“Rydym yn gobeithio y bydd siopwyr yn defnyddio'r parcio am ddim i ymweld â'n siopau lleol a chefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn."