English icon English
Computer lessons - Gwersi cyfrifiadurol

Digwyddiadau galw heibio digidol am ddim i’ch helpu i gysylltu

Free digital drop-in events to help you get connected

A oes angen cymorth arnoch chi neu ffrind neu aelod o’ch teulu â thechnoleg ddigidol?

A hoffech chi wybod sut i ddefnyddio ffôn clyfar, llechen gyfrifiadurol, peiriant Alexa neu ddyfais ddigidol arall?

Os felly, bydd cyfres o sesiynau galw heibio am ddim ar draws y sir yn eich helpu i gysylltu (gweler isod).

Gallwch ddod â’ch dyfais ddigidol, llechen neu’ch ffôn symudol eich hun neu ddefnyddio un o’r cyfrifiaduron sy’n cynnig mynediad am ddim. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a chael cymorth.

Dywedodd Matthew Wall o’r tîm Cymorth Cymunedol Digidol: “Rydym yma i helpu unrhyw un sydd eisiau dod i’r arfer â thechnoleg ddigidol a ddim yn siŵr ble i ddechrau.”

Galwch heibio a dysgwch sut i gael cymorth i wneud y canlynol:

Mynd ar-lein.

Cadw mewn cysylltiad â’ch teulu, ffrindiau a’ch cymuned leol.

Gwneud bywyd yn haws gartref gyda thechnoleg.

Nodi sut gall technoleg eich helpu chi i ofalu am rywun.

Manteisio i’r eithaf ar eich dyfais ar gyfer adloniant a gwybodaeth.

Sefydlu cyfrif BorrowBox (i fanteisio ar wasanaeth e-lyfrau).

Darganfod pa offer digidol y gallwch ei fenthyg.

Cael gwybod am hyfforddiant.

Dim band eang gartref? Dim problem! Galwch heibio am fwy o fanylion.

Dywedodd Laura Evans o dîm Llyfrgelloedd Sir Benfro: “Nod y sesiynau galw heibio digidol yw helpu a chefnogi’r gymuned leol â’u dyfeisiau a mynd ar y rhyngrwyd.

“Mae llyfrgelloedd yn chwarae rôl allweddol o ran cynnig y gallu i fanteisio ar dechnoleg, sy’n gallu helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd ac unigedd. Mae cael sesiynau galw heibio yn helpu pobl i gysylltu mewn ffordd na fyddant yn gallu gwneud ar eu pennau eu hunain.”

Gall dyfeisiau digidol gynnig cefnogaeth mewn cymaint o ffyrdd. Er enghraifft, os ydych chi’n gofalu am rywun neu os oes rhywun yn gofalu amdanoch chi, dysgwch sut gall technoleg eich helpu i drefnu apwyntiadau, cael eich atgoffa i gymryd meddyginiaeth neu deimlo’n ddiogel yn eich cartref eich hun.

Mae’r sesiynau galw heibio digidol yn RHAD AC AM DDIM ac ar agor i bawb. Nid oes rhaid archebu lle, dim ond galw heibio rhwng yr amseroedd dynodedig yn ystod y dydd.

Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol Digidol yn cynnig sesiynau yn y llyfrgelloedd canlynol yn Sir Benfro.

Mae pob sesiwn rhwng 10am a 12pm a rhwng 1pm a 4pm.

Glan-Yr-Afon, Llyfrgell Hwlffordd (01437 775244), ddydd Iau 16 Tachwedd.

Llyfrgell Doc Penfro (01437 775825), ddydd Mercher 22 Tachwedd.

Llyfrgell Dinbych-y-pysgod (01437 775151), ddydd Iau 23 Tachwedd.

Llyfrgell Abergwaun (01437 776638), ddydd Gwener 24 Tachwedd.

Llyfrgell Aberdaugleddau (01437 771888), ddydd Iau 7 Rhagfyr.

Ariennir y Tîm Cymorth Cymunedol Digidol gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael cymorth, ffoniwch 01437 764551 a gofynnwch am y tîm Cymorth Cymunedol Digidol neu anfonwch neges e‑bost at matthew.wall@pembrokeshire.gov.uk