Digwyddiad chwaraeon anabledd am ddim yn dod i Ganolfan Hamdden Penfro
Free disability sports event heads to Pembroke Leisure Centre
Bydd Canolfan Hamdden Penfro yn cynnal digwyddiad chwaraeon anabledd a chorfforol am ddim yn ddiweddarach y mis hwn gyda llawer o chwaraeon a gweithgareddau i roi cynnig arnyn nhw.
Mae’r gyfres insport, mewn partneriaeth â Chwaraeon Anabledd Cymru, Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro yn ddigwyddiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynhwysol.
Mae’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc anabl (5 oed+) ac oedolion ledled Sir Benfro, ac mae croeso i ffrindiau a theulu.
Ar gael i roi cynnig arnyn nhw mae: bocsio, boccia, nofio (archebu ar wahân ar sail cyntaf i’r felin), pêl-droed, rygbi cadair olwyn, saethu targedau, beiciau ymaddasol, criced, golff, amlchwaraeon, a mwy.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Penfro, ddydd Mercher 29 Mai rhwng 10am a 2pm.
Mae angen archebu lle yn y digwyddiad a lleoedd nofio.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Jess West o Chwaraeon Sir Benfro drwy e-bost Jessica.west@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 07795305871.