Digwyddiadau aml-chwaraeon am ddim i blant 5-7 oed yn Hwlffordd
Free multi-sports events for 5-7 year-olds in Haverfordwest
Gwahoddir pobl ifanc 5-7 oed a'r rhai sy'n awyddus i roi cynnig ar chwaraeon a gweithgareddau newydd i sesiynau aml-chwaraeon am ddim yn Hwlffordd.
Cynhelir y sesiynau rhwng 4.15pm a 5pm bob dydd Iau yn ystod y tymor ac maent wedi'u lleoli ar y Cyrtiau Tenis yn Ysgol Uwchradd Uwchradd Hwlffordd.
Mae'r sesiynau i gyd yn rhad ac am ddim ac mae amrywiaeth eang o weithgareddau i roi cynnig arnynt.
Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal gan staff Chwaraeon Sir Benfro wedi’u cynorthwyo gan Lysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd.
Mae clybiau lleol hefyd yn cymryd rhan i gynnal sesiynau a rhoi gwybodaeth ar sut i barhau gydag unrhyw chwaraeon.
Mae'n ofynnol i rieni/gofalwyr a hoffai gofrestru plant ar gyfer y sesiwn lenwi'r ffurflen ar-lein.
Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: "Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau Chwaraeon a bod yn egnïol yn gorfforol.
"Mae'r sesiynau aml-chwaraeon yn wych gan eu bod yn caniatáu i bobl ifanc roi cynnig ar gymaint o wahanol gemau a gweithgareddau sydd wir yn eu helpu i ddysgu a datblygu."