Valero ALN event

Campau lu, gan gynnwys boccia a bocsio – hyrwyddo chwaraeon newydd i bobl ifanc

From boccia to boxing – new sports promoted to young people

Rhannu:

Mwynheuiodd pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o bob cwr o Sir Benfro ddau ddigwyddiad amlchwaraeon llwyddiannus yn ystod mis Mehefin, gan roi cyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon mewn amgylchedd croesawgar a hwyliog.

Mynychodd 30 o blant o bob cwr o dde Sir Benfro’r digwyddiad cyntaf yng Nghanolfan Hamdden Penfro ar 16 Mehefin, a daeth 19 o blant eraill o ogledd y sir ynghyd i gymryd rhan mewn digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ar 30 Mehefin.

Cefnogwyd y ddau ddigwyddiad yn garedig gan y prif noddwr Valero.

Cafodd pobl ifanc gyfle i roi cynnig ar ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau, gan gynnwys rygbi, criced, dawns, boccia a bocsio, gyda phêl-fasged hefyd yn rhan o’r digwyddiad yn Abergwaun.

Wedi’u cynllunio i ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, roedd y ddau ddigwyddiad yn canolbwyntio ar gyfranogiad, mwynhad a magu hyder trwy chwaraeon.

Drwy gydol y sesiynau, anogwyd y plant i ddatblygu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a phrofi amrywiaeth o weithgareddau.

Gwnaed y digwyddiadau’n bosibl diolch i gefnogaeth hyfforddwyr ymroddedig, a thrwy eu brwdfrydedd a’u hanogaeth gwnaethant yn siŵr fod pob plentyn yn teimlo’n gartrefol ac yn gallu cymryd rhan.

Hoffai’r trefnwyr ddiolch yn ddiffuant i’r holl hyfforddwyr a gyfrannodd eu hamser, eu harbenigedd a’u hegni i wneud y digwyddiadau’n llwyddiant.

Diolch ychwanegol i JK Lewis a’i Fab o Grymych am eu caredigrwydd yn noddi dŵr potel ar gyfer y ddau ddigwyddiad ac i Valero am eu cefnogaeth gwerthfawr.

Dywedodd Elgan Vittle o Chwaraeon Sir Benfro: “Mae diwrnodau fel hyn yn dangos y pŵer sydd gan chwaraeon i chwalu rhwystrau a chreu profiadau cadarnhaol i bob unigolyn ifanc. Gwnaeth yr egni, y cyffro a’r mwynhad a ddangosodd pob cyfranogwr y digwyddiadau yn wirioneddol gofiadwy.

“Roedd yn wych gweld cynifer o blant o bob cwr o Sir Benfro yn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, yn magu hyder ac yn cael hwyl. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr a’r noddwyr a gefnogodd i helpu i wneud y cyfleoedd hyn yn bosibl.”

 

Nodiadau i olygyddion

Pennawd: Stephen Thornton o’r noddwyr Valero gyda hyfforddwyr a phobl ifanc.