English icon English
Summer fun 1 - Hwyl yr haf 1 cropped

Dyddiau hwyl yn cefnogi teuluoedd dros wyliau'r haf

Fun days support families over summer holidays

Mae Tîm Integreiddio Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gweithio yn ardaloedd Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun i gefnogi teuluoedd â phlant 0-7 oed i fwynhau haf llawn hwyl.

Mae'r Tîm yn gweithio'n agos gyda Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd i gynnal grwpiau a sesiynau rhianta i deuluoedd o adeg beichiogrwydd ymlaen. 

Dros yr haf, cynhaliodd y tîm Sesiynau Hwyl i'r Teulu gan fod gwyliau'r ysgol yn gallu bod yn hir iawn, yn enwedig gyda thywydd anghyson Sir Benfro.

Trwy bartneru gydag ysgolion lleol, gwnaed yn siŵr bod lle dan do ar gael ar gyfer pob un o'r chwe sesiwn, pe bai angen. 

Cynhaliwyd tair sesiwn ym mhob ardal ac yn ffodus cafwyd tywydd braf ym mhob sesiwn heblaw'r un olaf felly roedd y teuluoedd yn gallu mwynhau yn yr awyr agored.

Summer fun 3 - Hwyl yr haf 3

Cafwyd arian drwy’r Grant Gwaith Chwarae i ddarparu potiau ffrwythau a chynhwysion iach i’r teuluoedd greu tortillas wedi’u llenwi. Rhoddodd yr Ymarferydd Cyn-ysgol Iach o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei hamser ym mhob digwyddiad i hwyluso hyn.

Gwahoddwyd elusennau a sefydliadau lleol i gefnogi'r digwyddiadau, gan gynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, ASD Family Help, wnaeth ddarparu gweithgareddau sgiliau syrcas ac offer awyr agored cyffredinol a staff Cyngor ar Bopeth a ddarparodd weithgareddau lliwio a gwneud bathodynnau hwyliog a oedd yn ymgorffori negeseuon ynghylch cyllidebu. 

Daeth Small Woods â dimensiwn newydd i'r sesiynau gyda gweithgareddau natur gwych a welodd blant ac oedolion yn creu baneri a ffyn hud helyg gwych.

Summer fun 2 - Hwyl yr haf 2

Daeth rhai o wirfoddolwyr lleol Volunteering Matters i gefnogi pob digwyddiad gan ddarparu ystod o weithgareddau diddorol oedd yn cynnwys creu coron, daliwr golau a llusern, yn ogystal â sesiwn drymio a gemau bwrdd.

Rhoddodd y teuluoedd adborth gwych yn ogystal â'r holl ddarparwyr a oedd wedi mwynhau'r awyrgylch.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau wedi bod yn gymaint o hwyl a chefnogaeth wych i'r teuluoedd hyn dros yr haf. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan."

Daeth cyfanswm o 84 o oedolion a 165 o blant i'r sesiynau yn Ninbych-y-pysgod a 60 o oedolion a 106 o blant i’r sesiynau yn Abergwaun.

Gyda'r Tîm Blynyddoedd Cynnar yn darparu gweithgareddau eraill i deuluoedd eu mwynhau gyda'i gilydd, roedd llawer i'w wneud ar gyfer pob oedran, ffefryn arbennig oedd plant yn paentio wynebau eu rhieni! 

Daeth Carys, Gweithiwr Prosiect Plant Dewi, draw i ddarparu chwarae 'llanast a synhwyraidd' diddorol a hyrwyddo grŵp newydd (gweler isod).

Summer fun 4 - Hwyl yr haf 4

Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn ymuno â Plant Dewi i ddarparu Grŵp Teuluoedd Ynghyd newydd gan ddechrau yn Neuadd Eglwys Sant Teilo, Dinbych-y-pysgod ddydd Mercher 4 Medi fydd yn cael ei gynnal bob wythnos 9.30-11.30am. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch â Helen ar 07774900140, e-bostiwch EYIT@pembrokeshire.gov.uk a dilynwch ni ar Facebook https://www.facebook.com/EYITeam/