
Sesiynau chwaraeon am ddim i blant Abergwaun
Fun free sport sessions for kids in Fishguard
Gall pobl ifanc ddarganfod campau newydd i'w mwynhau mewn sesiwn aml-chwaraeon am ddim fydd yn dechrau wythnos nesaf.
Bydd y sesiynau ar gyfer plant 5-8 oed yn cael eu cynnal bob dydd Llun yn ystod y tymor rhwng 4.15pm a 5pm yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.
Bydd y sesiwn gyntaf ddydd Llun, 3 Chwefror.
Cyflwynir y sesiynau gan swyddogion Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro ac maent yn cael eu cynorthwyo gan Lysgenhadon Ifanc o Ysgol Bro Gwaun. Mae'r digwyddiad yn gyfle i roi cynnig ar weithgareddau hwyliog, campau newydd a datblygu sgiliau symud sylfaenol.
Mae croeso i bawb ddod draw.
Cysylltwch ag elgan.vittle@pembrokeshire.gov.uk am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich plentyn.