English icon English
Pembroke aerial - Awyrfaen Penfro

Arwydd pellach o ffydd gan Lywodraeth y DU yng ngwaith adfywio’r Cyngor

Further vote of confidence from UK Government in Council’s regeneration work

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch iawn o fod wedi derbyn cadarnhad y bydd prosiect adfywio mawr ar gyfer Penfro yn derbyn cyllid gwerth miliynau o bunnoedd gan Gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau cyllid dros dro o hyd at £10.54m ar gyfer Porth y Gorllewin i Borth y Dwyrain: Prosiect lefelu i Fyny Tref Penfro sy’n ceisio cefnogi gweithgarwch economaidd a chymdeithasol ar draws y dref, sy’n enwog am ei chastell canoloesol mawreddog, man geni Harri Tudur.

Mae'r prosiect yn cynnwys gwella tir y cyhoedd a seilwaith gwyrdd i wella profiad pobl sy'n ymweld ac annog ymweliadau hirach.

Bydd cysylltiadau gwell i gerddwyr yn cysylltu Main Street, Common Road drwy'r Parêd a Westgate Hill i ddod ag ymwelwyr yn uniongyrchol i ganol y dref.

Bydd gwell goleuadau a chelf stryd, ynghyd ag arwyddion wedi'u diweddaru, yn gwahodd ymwelwyr i grwydro’r Stryd Fawr a golygfeydd hanesyddol Pwll y Felin.

Bydd Canolfan Eastgate, sydd wedi bod yn wag ers amser maith, yn cael ei hadolygu a'i hasesu i bennu ei photensial i gael ei hailddatblygu ar gyfer defnydd amgen.

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi dangos cefnogaeth i’r gwaith adfywio allweddol y mae Cyngor Sir Penfro yn ei wneud.

“Rwy’n diolch i swyddogion y Cyngor sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cyllid Lefelu i Fyny hwn yn yr hyn a gydnabu Llywodraeth y DU fel cais o ansawdd uchel.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu ac yn chwarae rhan fawr mewn dyfodol disglair i ganol tref Penfro.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Le, Y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae hwn yn newyddion eithriadol o dda ac mae’r wobr hon yn arwydd arall o ffydd gan Lywodraeth y DU ar waith Cyngor Sir Penfro i adfywio canol ein trefi.

“Mae gennym ni ffordd bell i fynd ond mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud a bydd y wobr hon yn sicrhau bod y gwaith da hwn yn parhau.

“Rydym yn benderfynol na fydd ein trefi’n cael eu gadael ar ôl a’u bod yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau mai Sir Benfro yw’r lle gorau y gall fod i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”

Porth y Gorllewin i Borth y Dwyrain: Mae prosiect Lefelu i Fyny Tref Penfro yn ychwanegol at, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â chynllun uchelgeisiol sydd ar y gweill i ailddatblygu safle hanesyddol ac amlwg Cei’r De wrth ymyl Castell Penfro.

Mae'r gwaith yn cynnwys adfer tri adeilad rhestredig Gradd II, gwella'r amgylchedd cyfagos, a gwella mynediad at ganol y dref, y castell a glan y dŵr.

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cam cyntaf a bydd yn dathlu etifeddiaeth y dref fel man geni llinach y Tuduriaid gan greu canolfan ymwelwyr, llyfrgell a chaffi.

Bydd yr ail gam y mae rhaglen Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU yn ei ariannu yn darparu canolfan gymunedol newydd a seilwaith cysylltiedig.

Gyda’i gilydd, bydd y datblygiadau’n darparu cymysgedd amrywiol a chynaliadwy o ddefnyddiau newydd yn y dref.

Mae rhagor o wybodaeth am Rownd 3 y Gronfa Lefelu i Fyny ar gael yma: https://www.gov.uk/guidance/levelling-up-fund-round-3-explanatory-and-methodology-note-on-the-decision-making-process

Levelling Up blue bilingual