English icon English
Gala Nofio Anabledd yn Abergwaun

Gala Nofio Anabledd yn cyrraedd carreg filltir

Disability Swimming Gala makes a splash

Roedd Chwaraeon Sir Benfro yn falch iawn o gynnal Gala Nofio Anabledd Ysgolion Sir Benfro a noddir gan Stena Line yn ddiweddar, sydd heb ei gynnal ers 2020. 

Cymerodd dros 50 o nofwyr ran o Ysgol Portfield, Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Greenhill, Ysgol Harri Tudur ac Ysgol Gynradd Llandyfái mewn 29 ras.

Cofnodwyd amseroedd y nofwyr a’r gobaith yw y bydd rhai cyfranogwyr yn cael eu hadnabod i gofrestru ar gyfer rhaglen Para Talent ID Nofio Cymru.

“Diolch i John Havard, sy’n athro nofio Canolfan Hamdden Abergwaun, a'i staff am eu cefnogaeth yn ystod y digwyddiad,” meddai Angela Miles, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cyngor Sir Penfro.

“Hefyd Anne a Bob Adams am gynnal y digwyddiad a Saskia Peterson, sy’n athrawes nofio o Ganolfan Hamdden Hwlffordd, a oedd yn nodi nofwyr dawnus.

“Diolch yn arbennig i 11 o ddisgyblion TGAU Addysg Gorfforol Ysgol Bro Gwaun am eu dyletswyddau cadw amser yn ystod y digwyddiad.”

Rhoddwyd medalau i bob nofiwr gan Carl Milne o Stena Line ac Anne a Bob Adams.

Gan mai hon oedd y 15fed flwyddyn i Stena Line noddi’r digwyddiad, dyfarnwyd tlws arbennig i berfformiad gorau’r dydd, sef Emma Wilkinson o Ysgol Portfield.

Capsiynau

  1. Llun o’r enillwyr gyda threfnwyr y gala yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.
  2. Llun o Emma Wilkinson a enillodd y perfformiad gorau o'r dydd
  3. Llun o ddisgyblion TGAU Addysg Gorfforol o Ysgol Bro Gwaun fu'n helpu ar y diwrnod.