Galwad i lenwi lle gwag ar y Pwyllgor Safonau
Call to fill Standards Committee vacancy
Rydym ni angen Aelod Annibynnol i dderbyn lle ar y Pwyllgor sy'n hyrwyddo ac yn cynnal safonau ar gyfer cynghorwyr yn y sir.
Ar hyn o bryd mae gan Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro le gwag ar gyfer Aelod Annibynnol.
Mae'r Pwyllgor yn chwarae rhan bwysig yn yr Awdurdod, gan gynnwys ystyried adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achosion honedig o dorri'r Cod Ymddygiad.
Gwahoddir unrhyw un sydd wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol mewn bywyd cyhoeddus – egwyddorion Nolan – ac sydd â'r wybodaeth am y Cod Ymddygiad i Aelodau ac yn cadw atynt, i ystyried gwneud cais am y rôl.
Byddai'r ymgeisydd delfrydol hefyd yn gyfathrebwr da, yn gweithio'n dda mewn tîm, yn meddu ar sgiliau cadeirio a'r gallu i ddadansoddi deunydd ffeithiol a thystiolaeth i ffurfio barn wrthrychol gadarn.
Mae angen hyblygrwydd hefyd i fynychu cyfarfodydd ar fyr rybudd.
Ni ddylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais fod wedi bod yn aelod, swyddog, nac yn briod/partner sifil aelod neu swyddog o unrhyw gyngor sir, bwrdeistref sirol, tref neu gymuned, awdurdod tân ac achub neu awdurdod parc cenedlaethol o fewn y deuddeg mis diwethaf.
Ni ddylent erioed fod wedi gweithio neu gael eu hethol yn Gynghorydd yng Nghyngor Sir Penfro.
Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag Isabelle Moorhouse o’r tîm Gwasanaethau Democrataidd yng Nghyngor Sir Penfro drwy e-bost: Isabelle.moorhouse@pembrokeshire.gov.uk
Anfonir ffurflen gais a rhaid ei dychwelyd erbyn 16 Awst 2024.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 4 Medi 2024.
Bydd y penodiad am rhwng pedair a chwe blynedd yn y lle cyntaf a chaniateir tymor olynol pellach.