tu mewn i siambr y cyngor

Galwad i lenwi lle gwag ar y Pwyllgor Safonau

Call to fill Standards Committee vacancy

Rhannu:

Rydym ni angen Aelod Cyngor Cymuned i dderbyn lle ar y Pwyllgor sy'n hyrwyddo ac yn cynnal safonau ar gyfer cynghorwyr yn y sir.

Ar hyn o bryd mae gan Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro le gwag ar gyfer Aelod Cyngor Cymuned/ Chyngor Tref.

Mae'r Pwyllgor yn chwarae rhan bwysig yn yr Awdurdod, gan gynnwys ystyried adroddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achosion honedig o dorri'r Cod Ymddygiad.

Rhaid i chi fod yn aelod o Gyngor Tref neu Gymuned yn ardal Cyngor Sir Penfro i fod yn gymwys i eistedd ar y Pwyllgor Safonau.

Gofynnir i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag Kate Matthews o’r tîm Gwasanaethau Democrataidd yng Nghyngor Sir Penfro drwy e-bost: Kate.Matthews@pembrokeshire.gov.uk

Anfonir ffurflen gais a rhaid ei dychwelyd erbyn 12 Mehefin 2026.

Sylwch y cynhelir cyfweliadau ddiwedd Mehefin 2026.

Mae'n anodd rhagweld yr union faint o amser sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon; fodd bynnag, mae gan y Pwyllgor Safonau bedwar cyfarfod wedi'i drefnu'r flwyddyn, ynghyd â rhai cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.

Bydd y penodiad am weddill tymor y Cyngor h.y. tan yr etholiadau ym mis Mai 2027 a gellir ei ymestyn am dymor pellach o bum mlynedd wedi hynny; rhwng pedair a chwe blynedd yn y lle cyntaf.

Bydd y Panel Penodi yn cyfweld ac yn gwneud argymhellion i'r Cyngor yn seiliedig ar y meini prawf a ragnodir.