English icon English
Adult learners - Dysgwr sy'n oedolion smaller-2

Llwyddiant arholiadau TGAU a chyfle i fwrw ymlaen yn eu gyrfaoedd i oedolion sy'n ddysgwyr gyda Sir Benfro yn Dysgu

GCSE exam success and career progression for Learning Pembrokeshire adult learners

Wrth i ddysgwyr ysgol ledled Sir Benfro ddathlu eu llwyddiant yn yr arholiadau TGAU ddydd Iau Awst 24ain, canfu grŵp bach o ddysgwyr hŷn hefyd a oeddent wedi bod yn llwyddiannus mewn TGAU Mathemateg a/neu Saesneg.

Roedd tîm Sir Benfro yn Dysgu wrth eu bodd i longyfarch llawer o'u dysgwyr ar gyflawni Gradd C neu uwch eleni.

Ymhlith y rhai a oedd yn dathlu llwyddiant arholiadau roedd y tad a mab, Dieter a Logan Luke Jerome.

Mae llwyddiant mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn golygu y gall dysgwyr symud ymlaen mewn addysg neu gyflogaeth.

Er enghraifft, o'r 19 o ddysgwyr sy'n oedolion a dderbyniodd ganlyniadau, bydd un yn dechrau ar gwrs TAR, un arall yn dod yn Weithredydd Proses yn Valero a bydd un yn cyflawni uchelgais hirsefydlog i gyfuno blynyddoedd o brofiad fel cogydd â chwrs maeth.

Bydd dysgwr arall yn symud ymlaen yn ei yrfa yn ysbyty’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, un yn neilltuo amser i helpu gwaith ysgol ei neiaint a'i nithoedd ac un arall yn cyfoethogi ei waith fel cynorthwyydd cymorth dysgu.

Bob blwyddyn mae grŵp o oedolion ymroddedig fel y rhain yn cymryd amser o'u bywydau prysur a hynny ar ben eu hymrwymiadau gwaith a theuluol, i fynychu dosbarth TGAU mathemateg neu Saesneg gyda'r nos. 

Mae llawer o'r dysgwyr eisoes yn cyfrannu'n helaeth at y gymuned leol ac mae llwyddiant TGAU yn caniatáu iddynt barhau i wneud hynny mewn ffyrdd newydd a gwerthfawr.

Anfonodd tîm Sir Benfro yn Dysgu longyfarchiadau i bawb a fynychodd y dosbarth ac a weithiodd mor galed i gyflawni eu nodau eleni. Diolch hefyd i'r tiwtoriaid gweithgar ac ysbrydoledig.

Mae dosbarthiadau TGAU Mathemateg a Saesneg yn ailddechrau ddechrau mis Medi yng Nghanolfannau Dysgu Cymunedol Doc Penfro a Hwlffordd. Rhadffôn 0808 100 3302 yw'r rhif i gael gwybod mwy.