Boccia 2

Bwrw iddi mewn twrnamaint Boccia i ysgolion

Getting the ball rolling with schools Boccia tournament

Rhannu:

Daeth Twrnamaint Boccia ysgolion â mwy na 50 o ddisgyblion o bob cwr o Sir Benfro ynghyd am brynhawn o chwaraeon cystadleuol a chynhwysol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd ddydd Mawrth 21 Ebrill, gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn ymuno â disgyblion Ysgolion Bro Gwaun, Greenhill, Harri Tudur ac Aberdaugleddau. Noddwyd y digwyddiad â balchder gan Valero, ac mae eu cefnogaeth wedi helpu i wneud y twrnamaint yn bosibl.

Dyfarnwyd y gemau gan Lysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd, ochr yn ochr â’r chwaraewraig Boccia Rhyngwladol o Gymru, Sian Jones, a’i mam, Liz, y bu eu profiad yn ychwanegu at broffesiynoldeb a mwynhad y diwrnod.

Boccia 1

Ar ôl cyfres o gemau cyffrous, coronwyd Tîm 4 Greenhill yn bencampwyr, gan drechu Tîm 1 Ysgol Uwchradd Hwlffordd o 6 i 3 mewn rownd derfynol agos iawn a llawn tensiwn.

Boccia 3

Canmolodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro y digwyddiad a phawb a oedd yn rhan ohono.
“Roedd yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan ac yn mwynhau eu hunain mewn gweithgaredd mor gynhwysol. Da iawn i bawb a gymerodd ran, ac yn enwedig i Dîm 4 Greenhill am ennill rownd derfynol mor gystadleuol.”

Tynnodd y twrnamaint sylw at bŵer chwaraeon cynhwysol i ddod â phobl ifanc at ei gilydd, meithrin hyder a chreu profiadau chwaraeon cadarnhaol i bob cyfranogwr.