English icon English
Bro Ingli pupils making their gifs

GIF-io Sir Benfro: Plant o 47 o Ysgolion yn Animeiddio Enwau Lleoedd Sir Benfro

GIF-ing Pembrokeshire: Children from 47 schools animate place names

Yn ddiweddar, cymerodd 47 o ysgolion ledled Sir Benfro ran mewn gweithdai rhithiol i greu GIFs o leoedd poblogaidd yn Sir Benfro. Nod y prosiect oedd datgelu'r ystyron hynod ddiddorol y tu ôl i'n henwau lleoedd.

Mae enwau lleoedd yn dal cyfoeth o wybodaeth. Maent yn datgelu nodweddion daearyddol, hanes, a hyd yn oed y bobl a ymsefydlodd yng Nghymru, fel y Rhufeiniaid a'r Llychlynwyr. Er enghraifft, mae gan Sir Benfro enwau lleoedd y dylanwadwyd arnynt gan y Llychlynwyr, megis Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm.

Cafodd y disgyblion hwyl fawr yn y gweithdai darlunio digidol a gynhaliwyd gan Mwydro, sy’n arbenigo mewn creu GIFs. Mae'r GIFs hyn bellach yn fyw a gellir eu defnyddio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol fel Instagram, Facebook, a TikTok. Gallwch chwilio am y GIFs drwy deipio enw lle yn Gymraeg neu Saesneg i mewn i'r bar chwilio GIF. Mae'r plant yn gyffrous i olrhain pa mor aml y defnyddir eu GIFs. Beth am gefnogi'r plant drwy ddefnyddio’r GIFs hyn pan fyddwch yn ymweld â lleoedd ledled Sir Benfro yr haf hwn?

Dyma beth oedd gan ddisgyblion Ysgol Bro Ingli i'w ddweud:

Morgan - "Mae GIF's fel hyn yn rhoi Cymru, ac yn bwysicach, Sir Benfro ar fap y byd. Bydd dros 7 biliwn o bobl yn gallu defnyddio ein GIF's ni, bydd pawb yn adnabod Cwm-yr-Eglwys ar draws y byd!"

Georgiana - "Dwi'n hoff iawn o bethau digidol, dwi'n hoffi creu fideos a gemau ond roedd creu GIF's yn rhywbeth hollol newydd i ni. Roedd yn ddiwrnod i'r Brenin yn eu creu, gadewch i ni ledaenu Cymru a Chymraeg ar draws y byd!"

Yn dilyn y prosiect, mae amrywiaeth enfawr o GIFs Cymraeg ar gyfer enwau lleoedd ac atyniadau ar draws Sir Benfro y gellir eu defnyddio gan drigolion lleol ac ymwelwyr.

St Oswalds

Meddai Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Mae’r GIFs a grëwyd gan y disgyblion yn wych ac yn arddangos eu talent artistig a digidol. Rydym eisoes yn gweld pobl leol ac ymwelwyr yn defnyddio’r GIFs, sy’n gyffrous iawn i’r plant. Mae'r prosiect hefyd wedi bod yn gyfle gwych iddynt ddeall a gwerthfawrogi ystyr yr enwau lleoedd y maent yn eu gweld o'u cwmpas."

Some of the Gifs Created