Allwedd dal llaw i'r drws ffrynt newydd

Gohirio iansio polisi dyrannu newydd Tai Dewisedig @ Sir Benfro

Launch of new Choice Homes @ Pembrokeshire Allocation Policy delayed

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro a'i bartneriaid tai yn gwneud newidiadau pellach i Bolisi Dyrannu arfaethedig Tai Dewisedig @ Sir Benfro wedi derbyn canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, bydd cyflwyno'r polisi newydd yn cael ei ohirio.

Sut bydd hyn yn effeithio ar y ceisiadau presennol?

Bydd y Gofrestr Tai yn ailagor ar 28 Hydref 2026 o dan y polisi dyrannu presennol. Bydd ceisiadau yn parhau i gael eu hasesu, ac eiddo yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio'r trefniadau bandio blaenoriaeth presennol nes y cytunir ar ddiwygiadau pellach i'r polisi newydd.

Bydd swyddogion yn cysylltu’n uniongyrchol ag ymgeiswyr sydd eisoes wedi dechrau'r broses o ymuno â'r gofrestr newydd, cyn 28 Hydref.

Bydd hysbysebion eiddo wythnosol yn parhau i gael eu hatal tra bod y newidiadau i'r system yn cael eu cwblhau. Bydd eiddo yn parhau i gael eu dyrannu o restrau byrion o ymgeiswyr cymwys, a dylai ymgeiswyr sicrhau bod eu dewis o ran ardaloedd gosod yn gyfredol.

Pa newidiadau pellach i'r Polisi Dyraniadau sy'n cael eu cynnig?

Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau posibl i'r Polisi dros yr wythnosau nesaf, ac yn eu cyhoeddi. Nod y Polisi o hyd fydd sicrhau bod tai cymdeithasol prin yn cael eu dyrannu'n deg i bobl sydd â'r angen tai mwyaf, gan helpu i sicrhau bod cartrefi lleol yn dal i fod ar gael aer gyfer pobl, teuluoedd a chymunedau lleol.

Er mwyn caniatáu amser i'r newidiadau hyn gael eu gweithredu, eu profi a'u cyfathrebu, disgwylir lansio'r polisi newydd ym mis Chwefror 2027, yn hytrach na mis Hydref 2026.

Cefnogi ymgeiswyr

Bydd yr amserlen estynedig hefyd yn rhoi rhagor o amser i ymgeiswyr presennol gwblhau'r broses ailymgeisio.

O'r 4,292 o aelwydydd a oedd wedi’u cofrestru yn flaenorol, dim ond 59% sydd wedi cyflwyno cais newydd. Yn ogystal a hyn, nid yw 945 o aelwydydd yn y categorïau anghenion tai uchaf wedi ailymgeisio eto. Bydd yr amser ychwanegol yn caniatáu cymorth ac ymgysylltu pellach i helpu i sicrhau nad yw ymgeiswyr dan anfantais yn ystod y cyfnod pontio i'r polisi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai:  "Er ein bod yn gresynu y bydd yr amserlen weithredu newydd yn achosi oedi cyn lansio'r polisi dyrannu newydd, mae hefyd yn rhoi cyfle pwysig i sicrhau bod diwygiadau i'r Polisi yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol. Hoffwn hefyd wneud yn siŵr ein bod yn cymryd yr amser hwn i sicrhau bod cymorth ychwanegol yn cael ei gynnig i ymgeiswyr yr ydym yn gwybod bod angen llety arnynt i ymgysylltu â'r broses ailymgeisio."

Angen cymorth?

Gall unrhyw un sy'n cael anawsterau wrth gwblhau eu cais neu ddarparu gwybodaeth ategol gysylltu â'r Tîm Tai drwy e-bost i choicehomeschange@pembrokeshire.gov.uk neu dros y ffôn ar 01437 776603.