
Golff, nodau, chwech ac aces: Llwyddiant Clybiau Cymunedol
Golf, goals, sixes and aces: Community Clubs success
Batiau, peli, clybiau a racedi oedd eu hangen ar bawb mewn digwyddiad prysur gan Glybiau Cymunedol Hwlffordd a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn.
Daeth 90 o blant i’r digwyddiad yng Nghlwb Tenis Hwlffordd o ysgolion cynradd Sant Marc, Fenton a Mary Immaculate.
Cafodd y bobl ifanc eu cadw'n brysur gydag amrywiaeth o weithgareddau ac ymarferion a gyflwynwyd gan Glwb Tenis Hwlffordd, Clwb Pêl-droed Sirol Hwlffordd a Chlwb Criced a Chlwb Golff y dref.
Cynorthwyodd Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd i gyflwyno’r gweithgareddau ar y diwrnod a oedd yn egnïol iawn.
Yna cafodd pobl ifanc a oedd wedi mwynhau'r gwahanol weithgareddau eu cyfeirio at y clybiau i annog mwy o hwyl a chymryd rhan.
Noddwyd y digwyddiad yn garedig gan Valero a chyflenwyd ffrwythau i'r plant gan Morrisons a dŵr gan Princes Gate.
Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: "Roedd yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn mwynhau eu hunain.
"Cafodd pawb amser gwych, a'n gobaith nawr yw bod rhai o'r plant hyn wedi dod o hyd i weithgaredd y maen nhw’n ei fwynhau'n fawr ac wedi cael eu hysbrydoli i ymuno â chlwb lleol.
"Diolch yn fawr i'r holl ysgolion a gefnogodd y digwyddiad, yr Hyfforddwyr a'r Llysgenhadon Ifanc am gynnal y gweithgareddau, ac i Morrisons a Princes Gate am ddarparu lluniaeth ar y diwrnod."