county hall front main sign

Gorfodi gan y Cyngor yn arwain at euogfarn am dorri cyfraith rheoli cŵn peryglus

Council enforcement leads to conviction over dangerous dog control breach

Rhannu:

Mae perchennog ci wedi cael gorchymyn i dalu £1,082.50 ar ôl torri hysbysiad a osodwyd yn dilyn ymosodiad gan gi. 

Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Llun, 26 Hydref, disgrifiwyd nifer o ddigwyddiadau, a achosodd i Gyngor Sir Penfro gyflwyno Hysbysiad Rhybydd Gwarchod y Gymuned, ac yna Hysbysiad Gwarchod y Gymuned gyda gofynion i gadw'r ci dan reolaeth. 

Clywodd y llys fod y Cyngor wedi cyflwyno Hysbysiad Gwarchod y Gymuned i Bevis Musk, o Burton Ferry, ar 24 Chwefror, ar ôl i'w gi ymosod ar gi arall. 

Ar adeg y digwyddiad nid oedd Musk yn gallu cadw ei gi, a oedd yn rhedeg yn rhydd, o dan reolaeth. 

Disgrifiwyd hyn i'r fainc fel un o sawl achos lle'r oedd ei gi wedi ymosod ar gŵn eraill yn yr ardal. 

Roedd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i Musk sicrhau bod ei gi, math o labrador du, yn cael ei gadw ar dennyn bob amser a'i ffrwyno pan oedd mewn man cyhoeddus. 

Roedd yn ofynnol i Musk hefyd wneud yn siŵr bod yr anifail yng nghwmni person cyfrifol, fel nad oedd yn achosi ofn na phryder i aelodau o'r cyhoedd. 

Darparwyd tystiolaeth gan y dioddefwr a warden cŵn yr Awdurdod yn ystod y gwrandawiad. 

Canfu'r Llys fod Musk yn euog o dorri telerau'r Hysbysiad. 

Cafodd ddirwy o £500 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £200, ynghyd â chostau gwerth £382.50. 

Mae'r Cyngor yn annog perchnogion cŵn i sicrhau eu bod yn mwynhau cerdded eu cŵn yn gyfrifol a’u bod yn gallu rheoli eu hanifeiliaid anwes yn briodol. 

Cyflwynwyd Polisi Perchnogaeth Gyfrifol o Gŵn ac Anifeiliaid Anwes yn ddiweddar gan yr Awdurdod ar gyfer pob deiliad contract sy'n byw mewn eiddo CSP.  

Hefyd, derbyniodd y Cyngor wobr genedlaethol yn ddiweddar gan yr RSPCA am waith a gyflawnwyd ym maes perchnogaeth gyfrifol o gŵn. 

Dywedodd llefarydd: "Mae disgwyl i holl berchennog cŵn yn Sir Benfro fod yn gyfrifol am eu hanifeiliaid anwes ac am reoli eu hanifeiliaid anwes."