English icon English
Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi 1

Gorymdaith Gŵyl Ddewi Sir Benfro yw'r fwyaf eto!

Pembrokeshire’s St David's Day parade is the biggest yet!

Roedd strydoedd Hwlffordd yn llawn pobl yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ddoe, wrth i 1,100 o blant ysgol lleol gymryd rhan mewn gorymdaith wych drwy'r dref, dan arweiniad Samba Doc.

Wedi’i threfnu gan Fforwm Iaith Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro, roedd yr orymdaith yn dod i ben ar gaeau chwarae Picton lle cafodd pawb jamborî awyr agored llawn hwyl dan arweiniad Tiwtor Cymraeg Dysgu Cymraeg Sir Benfro, Tomos Hopkins.

Roedd yr orymdaith yn cynnwys disgyblion o'r ysgolion canlynol; Ysgol Caer Elen, Ysgol Wdig, Ysgol Waldo Williams, Ysgol WR Gynradd Bro Cleddau, Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Ysgol Gatholig Sant Francis, Ysgol Redhill, Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton, Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast, Ysgol y Castell ac Ysgol WG yr Eglwys yng Nghymru San Marc.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Addysg a'r Gymraeg, ei fod yn ddigwyddiad gwych.

"Hon oedd fy mlwyddyn gyntaf yn mynychu'r orymdaith ac roedd yn brofiad gwirioneddol ddyrchafol ymuno â chymaint o bobl ifanc yn dathlu ein nawddsant a dathlu'r Gymraeg.

"Hoffwn ddiolch i bawb fu'n rhan o'i wneud yn ddigwyddiad mor wych ac yn enwedig yr holl bobl ifanc am ddod â'r fath frwdfrydedd a mwynhad i'r diwrnod."

Dywedodd Catrin Phillips, o Fforwm Iaith Sir Benfro: “Rydym ni wrth ein bodd gyda'r nifer a ddaeth i’r orymdaith eleni a oedd yn ddathliad hyfryd o liwgar a hwyliog i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Diolch i bawb a gymerodd ran ac i'r holl wylwyr ar y strydoedd oedd yn cefnogi’r orymdaith."

Dechreuodd gorymdaith Gŵyl Ddewi Sir Benfro y tu ôl i'r hen lyfrgell yn Stryd Dew, cyn mynd i lawr y Stryd Fawr, trwy Stryd y Bont ac ar draws yr Hen Bont, nôl trwy Stryd y Cei, yna gorffen ar gaeau chwarae Picton. Ar flaen yr orymdaith roedd baner godidog Dydd Gŵyl Dewi, wedi’i rhoi yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Roedd yna gystadleuaeth hefyd ar gyfer y ffenest siop orau wedi’i ysbrydoli gan Gymru a Chymreictod gyda thlws draig arbennig ar gyfer yr arddangosfa fuddugol. 

Yr enillwyr oedd The Sheep Shop a cawsant eu beirniadu gan y Cynghorydd Delme Harries.

I weld mwy o luniau a chlipiau, ewch i dudalen Facebook Gorymdaith Hwlffordd: https://www.facebook.com/ParedHwlffordd

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Fforwm Iaith Sir Benfro yn cynnwys y sefydliadau canlynol: Menter Iaith Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro. Mudiad Meithrin, Dysgu Cymraeg, Clwb Ffermwyr Ifanc, Urdd, Cymraeg i Blant.